Skip to content

Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Seicoleg a manteisio ar brofiad gwaith

elin lewis 850 x 510
elin lewis 850 x 510

Mae astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn gwrs llawn amrywiaeth o astudio meddyliau ac ymddygiadau plant hyd at deallusrwydd anifeiliaid o’r byd o’i chwmpas, felly mae yna rhywbeth i bawb. Yn ogystal ag hyn mae gan y cwrs lawer o gyfleoedd i wneud cyfnod o brofiad gwaith er mwyn eich paratoi chi i’r byd gwaith.

Mae’r brifysgol yn cynnig y cyfle i deithio, naill ai’n astudio’r cwrs mewn gwlad arall, cael profiad mewn diwylliannau eraill neu cyfle i weld y byd. Mae Prifysgol Met Caerdydd yn rhoi cyfleoedd anhygoel i chi integreiddio’r iaith Gymraeg gyda’ch astudiaethau.

Fel roeddwn i’n sôn o’r blaen mae’r brifysgol yn rhoi’r cyfle i chi fynd allan a chael profiad o’r byd go iawn mewn modiwl profiad gwaith yn yr ail flwyddyn, ond os dydy’r opsiwn yma ddim yn apelio atoch chi gallwch gymryd modiwl am faterion modern sy’n gwynebu Seicoleg fel pwnc. Beth bynnag, mi gymerais i’r opsiwn i fynd allan ar brofiad gwaith, oherwydd roeddwn i eisiau cael cipolwg o beth, gobeithio, beth byddai’n gwneud yn y dyfodol!

, Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Seicoleg a manteisio ar  brofiad gwaith, CARDIFF MET BLOG
Dwi wedi derbyn nifer o brofiadau cadarnhaol ar fy nghwrs Seicoleg

Mae’r modiwl yma yn rhoi siawns i chi weld beth fydd bywyd ar ôl gadael y brifysgol oherwydd mae’n rhaid i chi ymgeisio am lefydd gwirfoddoli, ysgrifennu eich CV ac i fynd am gyfweliad er mwyn sicrhau eich lle. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael lle yn gwirfoddoli mewn ysbyty lleol yng Nghaerdydd. Dwi’n gwirfoddoli yn wythnosol am 3 awr gydag elusen sy’n rhoi cymorth i bobl sydd yn dioddef o anaf i’r ymennydd.

Fy rôl i yw i siarad gyda defnyddwyr y gwasanaeth, chwarae gemau gyda nhw i ysgogi’r ymennydd a gweithio tuag at targedau penodol sydd ganddynt. Mae hyn yn cynnwys gwneud paneidiau o de ar ben ei hunain neu gwneud pryd o fwyd. Mae’r gwirfoddoli yma o hyd yn dod a sialens a rhywbeth newydd i wneud yn wythnosol.

Y brif sialens yw deall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud oherwydd bod yr anaf i’r ymennydd yn effeithio ar eu lleferydd. Byswn i’n annog i chi ddewis yr opswin i fynd ar brofiad gwaith gyda’r brifysgol oherwydd y cyfleodd mae’r brifysygol yn rhoi i chi i weithio gyda nifer o gwmniau ac elusennau gwahanol na fysech chi’n cael y siawns heb y cysylltiadau sydd gan y brifysgol.

Mae gan y prifysgol ac yn benodol y cwrs yma rhywbeth i bawb, gyda chyfleodd anhygoel i ddysgu, teithio, chwarae chwaraeon, astudio drwy’r Gymraeg, bod yn rhan o ymchwil a gwneud ffrindiau oes! Dewch i fod yn rhan o’r teulu Seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd a manteisio ar bob cyfle!