Skip to content

Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol!

featured photo
featured photo

Shwmae, fy enw i yw Sara Patterson, a dwi erbyn hyn wedi graddio o’r cwrs BSc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Dwi ar hyn o bryd yn astudio’r cwrs TAR Uwchradd Addsyg Gorfforol ym Met Caerdydd.

Heb os, roedd cael cynnig i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy helpu i ddewis pa brifysgol i fynychu, a dwi mor falch fy mod wedi dewis i astudio yma dros brifysgolion chwaraeon eraill yn Lloegr.

, Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol!, CARDIFF MET BLOG
Criw AChAG yn ein blwyddyn gyntaf!

Ysgoloriaeth Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn ogystal â gallu astudio yn fy mamiaith, budd arall o astudio drwy’r Gymraeg oedd y siawns i dderbyn ysgoloriaeth o £500, £1,000 neu £5,000 y flwyddyn, wedi eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn dilyn gwneud cais yn ystod fy mlwyddyn olaf yn ysgol uwchradd, roeddwn yn ffodus iawn o dderbyn y Brif Ysgoloriaeth, sef £1,000 y flwyddyn am astudio 66% o fy nghwrs drwy’r Gymraeg. Roedd yr arian hyn o gymorth mawr, rhwng costau byw, talu rhent, mwynhau, nosweithiau mas, mynd ar wyliau – pob math o perks!

Ar yr ochr fwy academaidd, er mwyn derbyn yr arian, roedd rhaid dilyn cwrs Tystysgrif Sgiliau Iaith. Roedd hyn yn cynnwys asesiad llafar ac arholiad ar-lein – gyda’r budd o wella’ch sgiliau iaith. Elfen hanfodol os ydych am ddysgu yn y dyfodol.

Erbyn hyn rwyf wedi derbyn y Dystysgrif, ac roeddwn i’n falch nes i hyn yn fy mlwyddyn gyntaf. Dwi’n argymell i chi gyd neud hyn, gan fod llai o bwysedd gwaith gennych yn eich glas-flwyddyn.

Patagonia

Roeddwn i’n ffodus iawn o gael fy newis i fynd i Batagonia cwpwl o flynyddoedd yn ôl gyda 3 myfyriwr arall – Dafydd, Guto a Gwion.

Cawsom y cyfle anhygoel i fynd allan i’r Wladfa er mwyn hyfforddi chwaraeon mewn ysgolion cynradd a chymunedau, yn ogystal â theithio o gwmpas yr ardal yn profi’r gwahanol gymdeithasau.

Roedd y daith yn gysylltiedig gyda’n hastudiaethau, gan ein bod ni wedi dysgu am ddulliau gwahanol o hyfforddi, a beth i wneud gyda gwahanol oedrannau, felly roeddem yn gallu rhoi ‘theori mewn i bractis’. Roeddem yn ffodus iawn o dderbyn grant gan y Brifysgol er mwyn helpu gyda’r costau, er hyn roedd gennym lawer fwy o arian i godi – felly roedd cael unrhyw arian sbar yn hynod o ddefnyddiol!!!

Bywyd yn y Brifysgol

Fel soniais i, roeddwn i’n astudio ar y cwrs AChAG, ac gwnes i fwynhau pob elfen o’r cwrs. Un peth gwych oedd maint y cwrs, roeddem ni fel teulu bach, gydag ond 13 myfyriwr ar y cwrs. Roedd yn grêt cymdeithasu’n aml gyda’r cyd-fyfyrwyr o’r flwyddyn yn llai a hŷn, a fe gawsom ein Cinio AChAG dros y Nadolig! Roedd hi wir yn braf i fod yn AChAGwr!

, Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol!, CARDIFF MET BLOG
Cinio Nadolig AChAG!

Roeddwn hefyd yn chwarae hoci i dîm y Brifysgol, ac i glwb Met Caerdydd ar benwythnosau. Roedd fy wythnos arferol yn llawn ymarferion, gan gynnwys 2 sesiwn hoci, 2 sesiwn S&C (Strength and Conditioning) a 2 gêm yr wythnos – heb sôn am y darlithoedd, gweithio i’r Urdd a nosweithiau mas!

, Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol!, CARDIFF MET BLOG
Roedd yn grêt i fod yn rhan o dîm hoci Met Caerdydd

Tips!

  1. Yn eich blwyddyn gyntaf, gwnewch y fwyaf o fynd mas, bydd llawer fwy o waith da chi neud yn eich ail a’ch trydedd flwyddyn.
  2. Peidiwch fod yn or-ddibynnol ar frecwast K1, it goes downhill yn yr ail flwyddyn pan chi gorfod cwcan i’ch hunan
  3. Chwiliwch am gyfleoedd i deithio- nid yn unig drwy’r Adran Gymraeg.
  4. Byddwch yn falch dros iaith, mae’r Saeson deep down yn genfigennus o’ch gallu i siarad dwy iaith.
  5. Cydbwysedd- mynychwch ddarlithoedd, gweithiwch, yfwch, cymdeithaswch a joiwch!