Skip to content

Fy hoff lefydd i fwyta yng Nghaerdydd

, Fy hoff lefydd i fwyta yng Nghaerdydd, CARDIFF MET BLOG
, Fy hoff lefydd i fwyta yng Nghaerdydd, CARDIFF MET BLOG

Cadi Mars ydw i a dwi’n fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Met yn astudio Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd. Tra yn y brifysgol dwi hefyd wedi dechrau blog o’r enw #Bwyd sydd yn cyflwyno ryseitiau newydd ar gyfer myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae’n saff i ddweud mod i’n berson sydd wrth fy modd gyda bwyd! Dwi’n hoff o fynd i lefydd newydd i drio, felly meddyliais fase’n syniad da creu rhestr o lefydd efallai fyddwch chi’n hoffi ymweld yng Nghaerdydd.

1. Early Bird – 38 Woodville Road

, Fy hoff lefydd i fwyta yng Nghaerdydd, CARDIFF MET BLOG

Brecwast blasus yn The Early Bird!

Ma’ Early Bird yn un o’r caffis mwyaf prysur yn Nghathays, yn bennaf am ei fod yn fach, unigryw ac yn creu bwyd hyfryd. Fel mae’r enw yn awgrymu – mae’n rhaid i ti fod yn weddol fuan er mwyn gallu bachu set yn y caffi del yma. Mae’r caffi yng nghanol stryd o dai, felly mae o’n hollol anhysbys! Archebais yr ‘Hulk Smash’ ac yn wir oedd o’n un o’r afocados ar dost gore dwi wedi cael – yn enwedig hefo’r saws steil Mecsican. Ma’ poblogrwydd y lle yn amlwg – felly cer i drio’r lle dy hun!

2. Blanche Bakery – 16 Mackintosh Place

Take Out

Y doughnuts gorau erioed!

 
Dwi’n ymwybodol bod llawer o bobl yn fegan y dyddiau hyn – ar gyfer chi sydd yn fegan, neu i’r rhai ohonoch sydd ddim, dwi wedi darganfod y caffi bach mwyaf perffaith i chi sydd yn gwneud y ‘doughnuts’ mwyaf ANHYGOEL. Yn anffodus, wedi i mi gyrraedd doedd dim lle ar ôl i eistedd. Ond ma’r caffi yn darparu gwasanaeth ‘take-away’, ag es i a’r ‘doughnut’ adre hefo fi i fwynhau! Yn wir ma’ nhw yn llwyddo i drawsnewid y ‘doughnut’ syml i rywbeth anhygoel…

3. Coffee Barker – Castle Arcade

, Fy hoff lefydd i fwyta yng Nghaerdydd, CARDIFF MET BLOG

Coffi Barker!

Coffee Barker oedd un o’r caffis cyntaf i mi fynd i pan ddechreuais yn y Brifysgol, a dwi wedi bod yn ôl lawer gwaith ers hynny. Wedi ei leoli yn Arcêd y Castell dyma’r lle perffaith er mwyn cael cinio clud yng nghanol trip siopa prysur. Ma’r ymdeimlad yn y caffi yma yn hynod o glud ac yn gartrefol. Mae yna ddewis da o fwyd, yn wych ar gyfer cinio. Mae caffi arall wedi ei redeg gan yr un cwmni o’r enw ‘Barkers Tea Rooms’, perffaith ar gyfer unrhyw yfwr te brwd!

4. Bodlon – 12 Park Road

, Fy hoff lefydd i fwyta yng Nghaerdydd, CARDIFF MET BLOG

Cegin Bodlon!

Fel mae’r enw yn awgrymu, roeddwn yn fodlon iawn fy myd yn y caffi yma. Ma’ Bodlon yn gaffi Cymreig ei naws, sydd hefyd yn gwerthu rhai o gynnyrch adnabyddus Cymraeg. Fel myfyriwr cydwybodol… mi wnes i fynd a gwaith hefo fi, ac roedd yr awyrgylch yn wych i’w gwblhau. Cacen Foron oedd fy newis y tro yma, oedd yn hyfryd (fel sydd i’w weld yn y diffyg llun), yn bendant cerwch i’r caffi yma.

5. Stag Coffee – 123 Crwys Road

, Fy hoff lefydd i fwyta yng Nghaerdydd, CARDIFF MET BLOG

Caffi Stag!

Mae gorffeniad caffi Stag yn un sydd yn wrywaidd ei naws. Dwi wedi bod yn y caffi yma ‘chydig o weithiau, bob tro mae yna ddewis da o gacennau, ac yn anodd dewis un. Ma’r caffi wedi ei leoli mewn man delfrydol ar Ffordd Crwys, sydd yn ei wneud yn hawdd i bawb gyrraedd. Felly, dyma’r lle perffaith i gyfarfod a’ch ffrindiau sydd wedi gwasgaru yma ac acw yng Nghathays. Elli di hyd yn oed fynd a gwaith hefo ti… os oes rhaid i ti.

6. Penylan Pantry – 72 Kimberly Road

Penylan Pantry

Mae Penylan Pantry yn le gwych i ddod gyda ffrindiau

Penylan Pantry ydy’r lle i fynd i gael ‘brunch’. Ma’r dewis o fwyd sydd ar gael yn flasus, sydd yn ei wneud yn hynod o anodd i ddewis un. Archebais y chilli tri ffa, oedd i gyd wedi ei wneud o ffres. Yn y caffi yma ma’ dewis da o gynnyrch cartref o ‘scotch eggs’ i peis porc, ymysg a phethau eraill sydd yn werth eu trio. Yr unig anfantais i’r caffi yma ydy ei fod o ‘chydig yn bell i gerdded – ond yn bendant mae o werth bob cam.

Gobethio gwnewch chi fwynhau crwydro y caffis a bwytai yma gymaint a wnes i. Cerwch i lenwi eich boliau!