Skip to content

Pam dwi’n dwli bod yn llysgennad myfyrwyr i Met Caerdydd

, Pam dwi’n dwli bod yn llysgennad myfyrwyr i Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG
, Pam dwi’n dwli bod yn llysgennad myfyrwyr i Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG

Helo, fy enw i yw Ifan Rhys, ac rwy’n fyfyriwr yn fy ail flwyddyn sy’n astudio gradd BSc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd y cyfle i ymuno a’r brifysgol yn gyfle gwych gan fy mod i’n gallu astudio trwy’r Gymraeg a chwarae rygbi i safon uchel.

Llysgennad Met Caerdydd

Ers cychwyn fy ail flwyddyn dwi wedi cael yr anrhydedd i fod yn llysgennad i Met Caerdydd. Mae’r swydd yma yn un dwi’n mwynhau wrth ochr fy ngwaith cwrs. Mae rhai o fy nyletswyddau yn cynnwys helpu gosod stondinau ar gyfer diwrnodau agored, cofrestru’r myfyrwyr sy’n dod i weld y brifysgol, mynd a grwpiau ar gylchdaith o’r campws a helpu cadw’r offer i gyd ar ddiwedd y dydd.

, Pam dwi’n dwli bod yn llysgennad myfyrwyr i Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG
Gyda’r llysgenhadon eraill yn Niwrnod Agored Met Caerdydd- Campws Cyncoed ddydd Sadwrn!

Mae’n rôl dwi’n mwynhau neud am lawer o resymau. Dwi’n mwynhau gweithio diwrnodau pryd mae’r ysgolion yn mynychu’r campws ar gyfer sesiynau gwahanol gan fy mod yn cael profiad o weithio gyda phlant a chlywed pa mor cool yw’r adnoddau chwaraeon fel NIAC a’r cae rygbi 3G.

Hefyd yn ystod y diwrnodau agored dwi’n mwynhau trafod gyda’r myfyrwyr a rhannu fy mhrofiadau hyd yn hyn yn brifysgol. Fy nhrydydd rheswm pam dwi’n mwynhau yw wrth i mi weithio mwy mae fy hyder yn tyfu i siarad yn gyhoeddus gyda’r holl bobl wahanol. Erbyn hyn dwi lawer mwy cyfforddus yn arwain teithiau a rhannu gwybodaeth gyda phawb.

, Pam dwi’n dwli bod yn llysgennad myfyrwyr i Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG

Ers cychwyn y swydd dwi wedi gwneud ffrindiau gyda’r llysgenhadon eraill, pobl ni fyswn wedi cwrdd tu allan i’r swydd yma ac rydym i gyd yn dod ymlaen yn grêt wrth weithio. Dwi’n edrych ymlaen at ddigwyddiadau sydd i ddod yn y misoedd nesaf fel digwyddiadau UCAS, diwrnodau ‘applicant’ a mwy o ddiwrnodau agored ac ymweliadau ysgolion.

Fel ddywedais yn flaenorol dwi’n astudio fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cwrs yn un bach iawn gyda dim ond 13 o fyfyriwr yn fy mlwyddyn. Rydym i gyd yn agos iawn ac yn cael nosweithiau allan gyda’n gilydd yn aml. Rydym yn cael ein edrych ar ol yn dda wrth iddyn ni gael ein cinio AChAG cyntaf cyn y Nadolig gyda tair mlynedd yn mynychu gyda ambell i fyfyrwyr Cymraeg eraill yn ymuno.