Skip to content

Fy mhrofiad ar y cwrs Dylunio Ffasiwn…yr hyn dwi wedi’ ddysgu hyd yn hyn!

Menna Evans
Menna Evans

Helo fy enw i yw Menna a dwi newydd orffen fy mlwyddyn gyntaf yn astudio’r cwrs Dylunio Ffasiwn ym Mhrifysgol Met Caerdydd, a dwi ddim yn gallu credu pa mor gyflym mae’r flwyddyn wedi hedfan!

Dwi wastad wedi bod yn berson creadigol, ers roeddwn i’n fach roedd mam wastad yn fy annog i gystadlu yn y gystadleuaeth gelf yn yr Eisteddfod. O hwn datblygodd fy niddordeb yn yr ysgol gynradd lle cefais y cyfle i astudio’r pwnc tecstilau. Roeddwn i’n hoff iawn o’r pwnc hyn ac es i ymlaen i’w astudio yn y chweched dosbarth.​

Pam ddaeth hi’r amser i ddewis pa brifysgol roeddwn i’n bendant o astudio ffasiwn gan fy mod gen i ddiddordeb o greu gyda defnydd.

O ran dewis prifysgol roeddwn i eisiau astudio rhywle yn agos i gatref, ac roeddwn i’n lwcus iawn bod Met Caerdydd yn darparu cwrs bendigedig. Nid yn unig oedd y cwrs a safon o waith yn elfen dda roedd hefyd gen i’r cyfle i geisio parhau gyda’r iaith Gymraeg gan fod gennym ni tiwtoriaid cyfrwng Cymraeg ar gael i helpu.​

, Fy mhrofiad ar y cwrs Dylunio Ffasiwn…yr hyn dwi wedi’ ddysgu hyd yn hyn!, CARDIFF MET BLOG
Yn y stiwdio’n gweithio’n galed

Dwi wedi cael blwyddyn anhygoel, gyda chymaint o brofiadau newydd a chyffrous ar hyd y ffordd. Dechreuais fy nhaith fis Medi gyda dim clem o beth i ddisgwyl, roeddwn i’n edrych ymlaen at y cyffro o’r flwyddyn i ddod.​

Y prosiect cyntaf oedd rhaid i ni wneud ar y cwrs oedd y prosiect ‘micro macro’. Roedd y prosiect yn un diddorol i gyflwyno i ni i beth oedd i ddod ar y cwrs. Cefais i hwyl yn arbrofi gyda gwahanol ddefnydd a siapau.​

, Fy mhrofiad ar y cwrs Dylunio Ffasiwn…yr hyn dwi wedi’ ddysgu hyd yn hyn!, CARDIFF MET BLOG
Yn gweithio ar fy hoff brosiect mor belled

Roedd yr ail brosiect yn un hwyl iawn, cawsom y cyfle i gydweithio mewn grwp a gweithio ochr yn ochr gyda myfyrwyr eraill ar y cwrs Tecstilau a Dylunio Cynnyrch. Y briff oedd i greu ‘carrying device’, ac felly o fewn ein grŵp roedd rhaid i ni ddefnyddio arbenigion pawb i greu rhyw fath o gynnyrch sydd yn medru dal rhywbeth.

Cefais i grŵp da iawn, roedd pob aelod o’r grwp wedi cyfrannu i’r brosiect ac roedd y profiad yn fuddiol iawn i mi. Trwy wneud y prosiect hwn cefais y cyfle i wella fy sgiliau grŵp a dysgu sgiliau newydd gan y myfyrwyr eraill.

Y prosiect olaf ar fy nghwrs oedd fy hoff brosiect . Y briff oedd creu crys am gwmni fasiwn a oedd yn dangos elfennau o gynaliadwyedd. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r briff gan fy mod yn hoff iawn o arbrofi gyda lliwio naturiol ac felly yn syth roeddwn i’n sicrfy mod i eisiau ei ddefnyddio o fewn fy mhrosiect gynaliadwyedd.​

I orffen y flwyddyn roedd gennym ni ein sioe fasiwn, ble roedd gennym ni’r cyfle i arddangos ein holl waith o ddechrau’r flwyddyn. Aeth llawer o baratoi i mewn i’r sioe ac roedd yn gret i weld y canlyniad terfynol o’n gwaith i gyd yn cael ei arddangos yn y sioe. ​

Dwi’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf a beth sydd i ddod. Hoffwn symud ymlaen o’r flwyddyn hyn gyda’r holl sgiliau a phrofiadau a’i ddefnyddio yn fy ngwaith y flwyddyn nesaf i wella fy hun o fewn y cwrs.​