Skip to content

Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr

, Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, CARDIFF MET BLOG
, Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, CARDIFF MET BLOG

Helo! Elin ydw i, graddiais o’r cwrs BA Artist Dylunydd: Gwneuthurwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd nôl yn 2017. Ers hynny dwi wedi sefydlu busnes fy hun o’r enw Elin Angharad sydd yn arbenigo mewn ategolion lledr.

, Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, CARDIFF MET BLOG
Brand Elin Angharad

Felly pam dewisiais y cwrs hyn?

Mae’r cwrs yn eang iawn, o’r deunyddiau i’r nwyddau sy’n cael eu creu gan fyfyrwyr. Wrth rhannu gofod gwaith gyda phobl sydd yn arbenigo neu arbrofi mewn sawl defnydd yn eich ysgogi i arbrofi.

, Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, CARDIFF MET BLOG
Fy arddangosfa graddedig yn y brifysgol!

Mae hefyd yn ehangu eich gwybodaeth am ddeunyddiau eraill wrth drafod a rhannu profiadau. Mae’r gofod gwaith hyn yn rhan hanfodol o’r cwrs, ac yn creu cymuned, sydd yn hwyluso’r dasg. Mae’r cwrs yn un sydd yn llawn cyfleoedd, sydd yn plethu trwy bob cwrs arall yn y brifysgol.

, Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, CARDIFF MET BLOG
Un o fy nghynlluniau gwnes i

Dwi’n gwybod, “lledr? Tydi hynny ddim ar ddisgrifiad y cwrs!”

Mae stori defnydd o’r dechrau wedi bod o ddiddordeb i mi erioed, ac wedi dod i’r amlwg wrth ddilyn y cwrs.

, Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, CARDIFF MET BLOG
Yn fy nghweithdy yn Machynlleth!

Yn dod o gefn gwlad roedd hi’n naturiol felly fy mod â diddordeb mewn deunyddiau naturiol megis gwlân a lledr.

Na, tydi trin na gweithio gyda lledr ddim ar gael yn amlwg yn y brifysgol, ond ges i bob cyfle a help wrth i mi fynd ati i ddysgu, wrth arbrofi a chael cymorth yn y gweithdai a gan y tiwtoriaid.

Fel rhan o fy nghwrs cefais y cyfle i fynd ar brofiad gwaith, a mynd ar daith i Foroco a’r profiadau yma yn sicr a cherfiodd fy musnes heddiw.

, Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, CARDIFF MET BLOG
Ces i brofiad anhygoel gyda fy nghwrs i ymweld â Moroco

Es i ar brofiad gwaith gyda’r gwneuthurwr esgidiau Ruth Emily Davey yn fy ail flwyddyn, a dyma wir oedd y sbardun i fynd ymlaen a gwneud gwaith lledr o ddifri. Wrth fynd ar daith i Foroco gyda’r brifysgol ar ôl y profiad gwaith, ges i’r lledr i greu arddangosfa fy ail flwyddyn yn gwbl o ledr. Doedd dim troi nôl wedyn!

Erbyn heddiw dwi’n gweithio yn annibynnol yn fy ngweithdy ym Machynlleth. Mae rhan fwyaf o fy ngwaith yn waith comisiwn, sydd yn herio fy ngallu i greu patrymau yn ddyddiol.

, Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, CARDIFF MET BLOG

Anaml iawn dwi’n creu’r un darn o waith. Mae gen i un stociwr yn siop Mirsi ym Mhwllheli. Dwi wedi bod yn lwcus iawn i ddarganfod stociwr teg, sydd yn gwerthfawrogi fy nghrefft ac yn fy mharchu fel gwneuthurwr.

, Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy mhrofiad yn sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, CARDIFF MET BLOG

Mae’r busnes yn mynd o nerth i nerth a newydd ddathlu blwyddyn o fod mewn busnes, a does yna ddim sôn o arafu! (Sydd yn hollol grêt.) Byddwn i yn sicr ddim lle ydw i heddiw heb fy mhrofiadau yn y brifysgol ar gwrs arbennig hwn.

Canllaw ar gyfer unrhyw un sydd yn meddwl mynychu’r Ysgol Gelf a Dylunio:

  • Paid a fod ofn, arbrofa! Bydde di’n difaru peidio gwneud y mwyaf o’r cyfleusterau gwych sydd yn y brifysgol ar ôl gadael.
  • Os oes gen ti syniad, cer amdani! Paid oedi’n rhy hir!
  • Bydd yn amyneddgar gyda dy waith, mae’n cymryd amynedd i ddarganfod steil dy hun ac i feistroli unrhyw ddefnydd.