Skip to content

Bywyd ar ôl y brifysgol: Fy mhrofiad ar y cwrs Cyfathrebu Graffeg

Bywyd ar ol graddio
Bywyd ar ol graddio

Helo! Fy enw i yw Ffion a dwi newydd orffen fy mlwyddyn olaf yn astudio Cyfathrebu Graffeg yn y Met.

Ers dyddiau ysgol roeddwn wedi penderfynu fy mod eisiau dilyn gyrfa mewn Celf a dylunio. Dechreuais edrych ar gyrsiau gwahanol a phenderfynu bod y cwrs Cyfathrebu Graffeg yn Met Caerdydd yn ateb fy niddordebau.

Yn ystod Lefel A roeddwn yn mwynhau creu gwaith tecstilau, oedd yn llawn manylder ac hefyd yn creu ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau arbennig. Roeddwn yn chwilfrydig i ymchwilio sut i drosglwyddo y syniadau hyn i gyfryngau digidol. Wrth edrych yn ôl ar y cwrs, sylweddolais fod hyn yn bosibl. Mae’r cwrs wedi sicrhau fy mod yn gallu trosglwyddo fy syniadau celfyddydol i’r cyfrwng digidol.

Ffion Llun 1
Gyda fy nghwaith orffenedig!

Bu Met Caerdydd yn gyfrwng da i ddeffro ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd i gydweithio a myfywryr mewn meysydd gwahanol, fel Dylunio Cynnyrch, Tecstiliau a Darlunio.

Er enghraifft bum yn cydyweithio gyda myfyrwyr Dylunio Cynnyrch i greu cadair yn yr ail flwyddyn. Yn ystod yr ail flwyddyn hefyd cawsom gyfle i ymweld a Morocco. Bu hyn yn gyfle i ddarganfod traddodiadau gwahanol a cynhyrchu llyfryn am ein profiadau yno. Roedd bod yna yn agoriad llygaid i arferion a dylanwadau gwahanol.

, Bywyd ar ôl y brifysgol: Fy mhrofiad ar y cwrs Cyfathrebu Graffeg, CARDIFF MET BLOG

Yn ogystal a’r cwrs roedd bywyd yn y ddinas yn ffactor bwysig i astudio yn Met Caerdydd. Er fy mod wedi cael y cyfle i wneud ffrindiau o wahanol gefndiroedd roedd cymdeithas myfyrwyr Cymreig yn bwysig iawn i mi. Cefais gyfle i rannu llety gyda dwy Gymraes sydd wedi dod yn ffrindiau arbennig. Oherwydd roedd gennym yr un diddordebau a chefndiroedd, roedd mynd allan i gymdeithasu yng Nghaerdydd yn brofiad arbennig – yn enwedig amser y rygbi!

Gan fod y nifer ar y cwrs yn gymahrol fychan, roedd y berthynas rhyngddom a’n gilydd a’r tiwtoriaid yn hawdd ac yn hapus. Roedd eu hanogaeth wedi fy ysbrydoli i ymgeisio at safon uchel yn fy nghwaith, yn enwedig y prosiect terfynol.

Roedd edrych yn ôl ar fywyd myfyrwyr a’m profiad fy hun, wedi fy ysbrydoli i greu gwaith oedd yn canolbwyntio ar “iechyd meddwl” myfyrwyr. Temlais fod y pwnc yma yn amserol iawn ac oherwydd hynny roedd fwy o awydd ynof i greu gwaith oedd yn herio syniadau y gymdeithas.

, Bywyd ar ôl y brifysgol: Fy mhrofiad ar y cwrs Cyfathrebu Graffeg, CARDIFF MET BLOG

Yn y dyfodol dwi’n gobeithio cael y cyfle i ddefnyddio fy sgiliau dwi wedi eu hennill o’r profiadau o fod yn y brifysgol. Rwyf yn edrych ymlaen at geisio am swyddi yn y maes.