Skip to content

Fy mhrofiad o’r Gwyl Celf a Dylunio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

, Fy mhrofiad o’r Gwyl Celf a Dylunio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CARDIFF MET BLOG
Sara Fon Treble-Parry

, Fy mhrofiad o’r Gwyl Celf a Dylunio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CARDIFF MET BLOG

Yn ddiweddar cefais y cyfle i ymuno â Choleg Cymraeg Cenedlaethol ar daith i Aberystwyth am ddigwyddiad rhwydweithio Gwyl Celf a Dylunio. Mae Gwyl Celf a Dylunio yn darparu cyfle unigryw i fyfyrwyr sy’n astudio rhywfaint o’u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae cyfleoedd fel yma yn angen i artistiaid ifanc yng Nghymru, gan eu bod nhw yn helpu i ddatblygu cysylltiadau gydag artistiaid Cymreig ledled Cymru. Roedd y digwyddiad yma hefyd yn gyfle i ni i gyd siarad Cymraeg gyda’n gilydd am ein gwaith celf, sydd weithiau yn anodd i’w gael yn symud i ddinas.

, Fy mhrofiad o’r Gwyl Celf a Dylunio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CARDIFF MET BLOG
Ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  1. Gweld Celf Artistiaid Enwog a Lleol
, Fy mhrofiad o’r Gwyl Celf a Dylunio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CARDIFF MET BLOG
Arddangosfa Celf yn Amgueddfa Llyfrgell Cymru

Cawsom y cyfle i weld gwaith Andrew Logan (flashy iawn), casgliad arbennig llyfrgell Aberystwyth o Kyffin Williams (oedd o’n rili cŵl, oni’n teimlo fel spy), a Paul R jones (sydd yn gwenud gwaith gwleidyddol Cymreig – wehey!).  

, Fy mhrofiad o’r Gwyl Celf a Dylunio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CARDIFF MET BLOG

2. Cyfarfod â phobl o bynciau eraill sy’n siarad Cymraeg

, Fy mhrofiad o’r Gwyl Celf a Dylunio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CARDIFF MET BLOG
Cyfle i gwrdd â myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Celf eraill

Mae o’n swnio’n fach, ond mae o’n gwneud byd o wahaniaeth i bobl fel fi sydd yn colli siarad yr iaith. Dwi’n teimlo fel dwi’n ffrindiau efo bawb sydd yn siarad Cymraeg pan dwi’n cyfarfod nhw oherwydd mae o’n teimlo fel gennych chi gymaint yn gyffredin yn barod. Mae cael y siawns o gyfarfod nhw i gyd mewn un lle yn well fyth!

, Fy mhrofiad o’r Gwyl Celf a Dylunio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CARDIFF MET BLOG
Sesiwn gyda Elin Crowley yn sôn am print mono!

3. Cyfle i wneud celf o’r profiad

Roedd y profiad yma hefyd yn gyfle i ymlacio a gwneud gwaith sydd ddim yn cael ei asesu. Mae hyn yn hiwj pan ti heb gael frêc ers donkey years i wneud gwaith eich hun sydd ddim ar gyfer eich pwnc. Mae o fel darllen llyfr normal ar ôl cyflwyno traethawd!

Yn fyr, mae’r cyfleoedd sydd am gael eu cyflwyno i chi am fod gymaint o fantais i chdi, petai chi’n gwneud grŵp o ffrindiau, cael brêc, neu yn dysgu sgiliau newydd tuag at eich gwaith. (Mae nhw fel arfer yn rhad ac am ddim hefyd!)