Skip to content

Beth dwi’n neud fel cynrychiolydd cwrs i’r Ysgol Reoli- a pham y dylech chi fanteisio ar y cyfle hefyd!

connor featured image
connor featured image

Fy enw i yw Connor a dwi’n gynrychiolydd cwrs yn yr Ysgol Reoli Caerdydd. Yn fy rôl, dwi’n rheoli grŵp o gynrychiolwyr o gwmpas yr ysgol o Fusnes a Rheolaeth i Deithio a Thwristiaeth. Dechreuais i weithio gyda’r undeb myfyrwyr yn fy mlwyddyn gyntaf ym Met Caerdydd ac ers hynny dwi wedi bod yn gyfrifol am gasglu barn myfyrwyr yn fy nosbarth. Roeddwn i’n mynychu cyfarfodydd gyda staff y brifysgol i siarad am ffyrdd i wella fy nghwrs busnes a rheoli.  

Mae wedi bod yn her werth chweil mynd i’r afael â fy rôl fel Cynrychiolydd yn yr Ysgol Reoli. Dwi wrth fy modd gyda’r her ac rwy’n credu fy mod i wedi cael tymor cyntaf llwyddiannus. Dwi wedi gorfod cymryd yr amser i ddod o hyd i’m cynrychiolwyr arweiniol sy’n gofalu am y gwahanol adrannau o gynrychiolwyr  yn yr ysgol, maen nhw wedi bod yn wych!   

, Beth dwi’n neud fel cynrychiolydd cwrs i’r Ysgol Reoli- a pham y dylech chi fanteisio ar y cyfle hefyd!, CARDIFF MET BLOG

Mae’n help mawr i gael rhywun sy’n gallu cael adborth a datrys materion llai er mwyn gallu canolbwyntio ar eraill. Rydym wedi cael rhai cyfarfodydd cadarnhaol gyda rheolwyr yr ysgol ac wedi gwneud rhywfaint o gynnydd gwirioneddol gyda materion gogwyddo sydd wedi bod o gwmpas ers tro.   

Mae gen i adroddiad misol i’w gyflwyno, yn rhoi manylion cyfarfodydd rydw i wedi’u mynychu, pwy oedd yn bresennol a beth gafodd ei drafod. Disgwylir i mi hefyd gael cynllun: bod wedi nodi meysydd yn fy ysgol lle gellir gwneud gwelliannau a sut rwy’n bwriadu effeithio ar y newidiadau hynny. Mae gen i gyfrifoldeb i gefnogi fy nghynrychiolwyr, i sicrhau eu bod nhw’n gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ohonyn nhw, eu diweddaru, a bod ar gael i’w helpu gyda materion sydd ganddyn nhw neu sy’n cael eu dwyn i’w sylw. 

Os ydych chi am wneud y gorau o brifysgol a manteisio ar bob cyfle, mae bod yn gynrychiolydd cwrs yn gam gwych ar y llwybr hwnnw! Ewch amdani!