Skip to content

Fy mhrofiad anhygoel yn gweithio yn y Venice Biennale gyda Cymru yn Fenis!

Gwenllian Llwyd
Gwenllian Llwyd

Am bum wythnos dros fis Mai a Mehefin eleni cefais y cyfle i fynd allan i Fenis am bum wythnos i weithio fel rhan o dîm Cymru yn Fenis yn y ‘Venice Biennale’ yn goruchwylio arddangosfa gelf Sean Edwards ‘Undo Things Done.’ Croesawi bobl o bob cwr o’r byd i’r arddangosfa, trafod yr arddangosfa, ateb unrhyw gwestiynau a thrafod y SIN gelf gyfoes Gymraeg oedd ein cyfrifoldeb ni fel goruchwylwyr yn yr arddangosfa anhygoel yma.

Beth yn union yw’r Biennale?

Cynhelir yr ŵyl bob dwy flynedd sydd felly yn rhoi ei henw i’r ŵyl. Ceir yma weithiau ac arddangosfeydd celf weledol, gyfoes o bob cwr o’r byd. Dyma ŵyl sy’n ymestyn dros ran helaeth o Fenis dros gyfnod o saith mis a hynny o fis Mai tan fis Tachwedd.

, Fy mhrofiad anhygoel yn gweithio yn y  Venice Biennale gyda Cymru yn Fenis!, CARDIFF MET BLOG
Criw Cymru yn Fenis 2019!

Cymru yn Fenis yw un o’r amryw o bebyll gan wledydd led-led y byd sy’n mynnu eu lle yn Fenis yn ystod y saith mis hwn o’r flwyddyn. Wedi’i lleoli ar stryd Fondamenta S. Gioacchin yn ardal Castello, arddangosfa bersonol sy’n ymchwilio gwleidyddiaeth, dosbarth a hanes bersonol yr artist yw ‘Undo Things Done.’

, Fy mhrofiad anhygoel yn gweithio yn y  Venice Biennale gyda Cymru yn Fenis!, CARDIFF MET BLOG
Machlud Haul yn Fenis!

Fy hoff ran o’r arddangosfa oedd y darn sain perfformiadol Refrain sef darlleniad radio byw gan fam Sean Edwards- Lily o’i fflat yng Nghaerdydd bob dydd am 2 o’r gloch y prynhawn. Daw’r darn hwn, sy’n gydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru, â naws atgofus a dirdynnol i’r holl arddangosfa. Er hyn, y profiad o baratoi’r darllediad radio sy’n aros yn y cof i mi’n bersonol. Roedd y dasg ddyddiol o baratoi’r darlleniad radio yn dechrau am 1:30, drwy gysylltu â fflat Lily a gwneud profion sain cyn i ni fynd yn fyw.

, Fy mhrofiad anhygoel yn gweithio yn y  Venice Biennale gyda Cymru yn Fenis!, CARDIFF MET BLOG
Gyda Rachel a Claire yn wythnos agoriadol Venice Biennale

Clywed hanesion dyddiol Lily am ei phrofiadau o drio cacennau gwahanol, sgyrsiau am y tywydd nol yng Nghymru ag hyd yn oed i wybod beth oedd ei hoff anifail oedd yn dod a gwn ddyddiol i’n gwynebau ni fel goruchwylwyr.

Tra’n gweithio yn Fenis, cefais ddigon o gyfle i grwydro a darganfod mannau hudolus y ddinas anhygoel, yn ogystal a gweld yr holl weithiau celf oedd yn cael eu harddangos ym mhob twll a chornel o’r ddinas mewn amryw o adeiladau. Wrth adlewyrchu ar y profiad hollol anhygoel hyn, dwi’n hynod o ddiolchgar i Brifysgol Metropolitan Caerdydd ag i Gyngor y Celfyddydau Cymru am gynnig y fath gyfle i unigolion ar draws Cymru.