Helo! Fy enw i yw Aled James a dwi newydd gorffen fy nghwrs TAR ysgol gynradd ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Hon oedd fy mlwyddyn gyntaf ym mhrifysgol Met Caerdydd.
Yn y blog yma byddaf yn ysgrifennu am fy mhrofiadau yn ystod y cwrs TAR Cynradd eleni a pham fy mod i wedi dewis gwneud y cwrs trwy’r cyfrwng y Gymraeg. Byddaf hefyd yn sôn am rhai profiad gwaith/lleoliad, a sut oedden i’n meddwl y bydd y profiadau yn helpu gyda fy ngyrfa wrth symud ymlaen.
Dewisais Prifysgol Met Caerdydd oherwydd ei fod yn caniatáu I mi barhau â’m haddysg trwy gyfrwng Cymraeg. Gyda’r meintiau grwpiau llai, llwyddais i ddatblygu perthynas agos gyda fy mentoriaid prifysgol a roedd y profiad yn un cadarnhaol ar y cyfan. Roedd maint y grwpiau yn ei gwneud hi’n hawdd i mi ffurfio perthnasoedd gyda’m cydweithwyr a darparu cymuned agos i mi.
Yn y ddwy ysgol, roeddwn i’n teimlo ar unwaith bod fy sgiliau wedi’u datblygu gan y cyfleoedd eang a gynigiwyd i mi. Llwyddais i arwain rhai prosiectau STEM, mynd ar deithiau ysgol, bod yn rhan o ddiwrnodau hyfforddi athrawon a diwrnodau iechyd a lles i ddisgyblion a hefyd wnes i gael profiad gydag ystodau oedran a datblygu’r holl sgiliau sy’n ofynnol i fod yn athro da yn y pen draw.
Yn anffodus, doedd fy mlwyddyn TAR ddim wedi gorffen fel yr oeddwn yn ei ddychmygu oherwydd COVID-19. Oherwydd hyn, treuliais 5 wythnos yn unig yn fy ail brofiad addysgu. Roedd y brifysgol yn wych yn ystod yr amser hwn, nid yn unig y gwnaethant ddarparu cyfarfodydd gyda’n mentoriaid i wirio sut yr oeddem, ond fe wnaethant hefyd ddarparu rhai syniadau i ni o wahanol gyrsiau ar-lein y gallem eu gwneud i ddatblygu ein hunain ymhellach.
Wrth edrych yn ôl ar fy mhrofiad eleni yng Nghaerdydd, ni allaf ei ganmol yn ddigonol, hyd yn oed gydag anawsterau Covid, roedd y profiad yn un cadarnhaol na fyddwn yn ei newid.
Mae fy mlwyddyn TAR wedi bod yn anhygoel. Dwi wedi bod yn ffodus i gwrdd â phobl a fydd yn ffrindiau am oes. Mae’r cwrs wedi datblygu fy ngalluoedd addysgu, ond hefyd wedi darparu cyfoeth o brofiadau bywyd sy’n amhrisiadwy i mi.
Mae fy mhrofiad ar leoliad a phrifysgol wedi rhoi cyfle i mi ddechrau gyrfa fy mreuddwyd mewn ysgol fendigedig ym mis Medi. Rwyf hyd yn oed wedi bod yn ddigon ffodus i gael y cyfle i weithio ar ochr un o fy ffrindiau cwrs Met. Ni allaf aros i ddefnyddio’r holl bethau a ddysgais o fy astudiaethau a’m harferion am flynyddoedd i ddod. Byddaf yn hapus i argymell Met i unrhyw un sy’n chwilio am brofiad addysgol unigryw.