Skip to content

Fy nhaith mewn i addysgu- Fy mhrofiad yn astudio ar y cwrs TAR Uwchradd Hanes

Sion Davies PGCE
Siôn Peter Davies

Sion Davies PGCE

Helo, fy enw i yw Siôn a dwi newydd raddio ar y cwrs TAR Uwchradd. Cyn i mi orffen fy ngradd Hanes blwyddyn ddiwethaf, roeddwn yn gwybod am flynyddoedd fy mod i eisiau mynd ati i gwblhau cwrs TAR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Am flynyddoedd roeddwn eisiau bod yn athro Hanes mewn ysgol Gymraeg yng Nghymru.

Y prif rheswm pam nes i benderfynnu dewis Met Caerdydd oedd y siawns i allu barhau fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd byw ym mhrif ddinas Cymru. Roeddwn i’n sicr fy mod am wneud y cwrs TAR trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd gwnes i rhan fwyaf o fy addysg yn y Gymraeg.

Trwy astudio yn y Met, ysgrifennias fy aseiniadau yn y Gymraeg tra hefyd yn cael sesiynau ‘Gwella Iaith’ er mwyn sicrhau bod fy iaith i’r safon gorau. Cawsom sesiynau gyda myfyrwyr TAR o bynciau gwahanol trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd diwrnodau ym Mhrifysgol Aberystwyth i gwrdd a myfyrwyr o brifysgolion o gwmpas Cymru oedd hefyd yn gwenud y cwrs drwy’r Gymraeg. Teimlaf fod cwblhau’r cwrs trwy’r Gymraeg wedi bod yn fuddiol iawn i mi a byse ni’n cynnig i bawb gwblhau’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Un o gryfderau Met Caerdydd yw strwythur y cwrs TAR Uwchradd. Roedd y cyfuniad o fod yn y brifysgol ar y dydd Llun a chwblau eich lleoliad am weddill yr wythnos yn dda oherwydd roeddech o hyd mewn cysylltiad gydach mentor. Fy mentor i oedd Mark Williams ac mae’n rhaid dweud roedd Mark yn fentor arbennig. Roedd ei gefnogaeth ar ddechrau’r cwrs hyd at y diwedd o’r safon uchaf, yn enwedig pan ddaeth ati i baratoi am gyfweliadau. Drwy gydol y cwrs roeddwn i’n teimlo fod i gen i’r gefnogaeth ac o hyd yn gwella wrth i’r cwrs fynd ymlaen.

Featured Sion Davies

Roeddwn i’n ffodus iawn i gael dau brofiad ysgol arbennig o dda. Fy mhrofiad cyntaf oedd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd. Fe wnaeth yr ysgol i gyd, yn enwedig yr adran Hanes gwneud i mi deimlo’n rhan o’r ysgol. Roedd fy mentor Eleri Minton yn fentor ardderchog- ar y diwrnod cyntaf gofynnodd i fi ymuno ar y trip hanes i Wlad Belg a Ffrainc!

Roedd y trip yma yn un cofiadwy iawn i mi a’r disgyblion- doeddwn i fyth yn dychmygu bywsn i’n cael y cyfle i fynd ar daith pan ddechreuais i’r cwrs! Er roeddwn i’n drist i adael Plasmawr, roeddwn i’n gyffrous i ddechrau yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yng Nghaerffili ar fy ail brofiad dysgu.

Llun Blog Sion

Roedd Cwm Rhymni yn hollol wahanol i Blasmawr a chredaf roedd hyn yn beth dda i fy mhrofiad dysgu. Roedd fy mentor Dyfrig Jones a’r athrawon Hanes eraill fel Megan Price a Robert Gaffey yn hanfodol yn helpu mi ddod i’r arfer i’r ysgol a helpu gwella fi fel athro. Cafodd fy ngwers olaf yng Nghwm Rhymni ei ffilmio gan Met Caerdydd ac efallai hyn oedd uchafbwynt fy mhrofiad dysgu.

Roedd e’n ddoniol gweld ymddygiad y disgyblion yn newid unwaith oedd y camerau yn y dosbarth! Roeddwn yn ddigon ffodus i greu ffrindiau ym Mhlasmawr a Chwm Rhymni ac rwyf yn parhau i gadw mewn cysylltiad. Mae unrhyw fyfyrwyr sy’n cael cyfle o brofiad yn un o’r ysgolion yma yn lwcus iawn!

Llun Blog 3

Ers gorffen y cwrs, rwyf wedi dechrau swydd fel Athro Dyniaethau yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam! Mae’n ddiddorol iawn bod yn athro yn fy hen ysgol ond hyd yn hyn mae’r swydd wedi bod yn grêt ac rwyf yn edrych ymlaen at y blynyddoedd nesaf yma!

[embedyt] https://www.youtube.com/watch?v=W99p4wwu1XU[/embedyt]