Skip to content

Pam dewisais i ddychwelyd yn ôl i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Featured Image 2
Featured Image 2

Helo! Fy enw i yw Hannah a dwi newydd orffen yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Reoli yn astudio Rheoli Digwyddiadau. Er fy mod i wedi derbyn fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg roeddwn yn ansicr os oeddwn am ddychwelyd yn ôl i’r brifysgol i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl tair blynedd o beidio siarad yr iaith. Mae’n rhaid dweud roedd dewis dod yn ol i’r brifysgol yn benderfyniad anodd ac roeddwn yn poeni am ddychwelyd yn ol i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar ol peidio ymarfer yr iaith am gwpwl o flynyddoedd.

Yn lwcus, yn fy ail ddiwrnod cyflwynodd Kelly Young ei hun fel y darlithydd Cymraeg ar fy nghwrs ac yn ffodus roedd rhai o’r modiwlau wedi cael ei dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Roedd gen i nifer o gwestiynau, megis “Bydd y modiwlau yma yn datblygu fy ngallu yn yr iaith? Neu byddwn yn ffeindio’r modiwlau yn heriol gan fy mod i ddim wedi gallu siarad yr iaith am dair blynedd.

, Pam dewisais i ddychwelyd yn ôl i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, CARDIFF MET BLOG
Dwi wedi cael nifer o brofiadau cadarnhaol ar y cwrs Rheoli Digwyddiadau!

Ar ôl cael sgwrs gyda Kelly a thrafod sut mae’r brifysgol yn trin a modiwlau dwyieithog, roeddwn yn sicr fy mod i am astudio rhan o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Ers hynny, fe benderfynais astudio dau fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg a dwi hefyd wedi ymuno a chymdeithas ‘GymGym Cymraeg’, i neud ffrindiau gyda myfyrwyr cyfrwng Cymraeg eraill.

O fy mhrofiad i, byddwn yn annog pawb i geisio astudio yn y Gymraeg gan ei fod yn rhoi cyfle i chi barhau i ymarfer yr iaith o gwmpas eraill sydd hefyd yn ceisio gwella eu hiaith. Nid oes angen i’ch Cymraeg fod yn berffaith i astudio yn Gymraeg gan fod cymaint o gymorth ar gael i’ch helpu. Mae’n gyfle gwych i ddod yn rhan o gymdeithas gyfeillgar lle gallwch wneud cynnydd ar gyflymder sy’n siwtio chi.