Skip to content

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gyda TAR Cynradd ym Met Caerdydd

featured photo
Maria Horler

featured photo

Helo, fy enw i yw Maria Horler ac rwy’n dod at ddiwedd fy mlwyddyn o astudio ar y cwrs TAR Cynradd yma ym Met Caerdydd. Pan raddiais yng Nghymdeithaseg ac Addysg o Brifysgol Caerdydd yn 2020, roeddwn i’n barod i barhau i weithio tuag at fy nod hirdymor, i fod yn athrawes ysgol gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel disgybl hilgymysg, cefais i brofiad bythgofiadwy mewn amgylchedd cynwysedig a oedd yn caniatau i mi i fagu’r hyder i ymdrechu’n galed am fy nod a derbyn cyfleoedd buddiol o hunan-ddarganfod. Felly, pam buaswn i ddim eisiau fod yn athrawes a cynnig yr un fath o gyfleoedd ysgogol i ddisgyblion i gyflawni eu nodau ar ol y brofiad yma?

Wrth feddwl am fy uchafbwyntiau ar y cwrs hyd yn hyn, teimlaf fy mod wedi cael profiadau anhygoel, hyd yn oed yn ystod y pandemig Covid-19. Rhaid cyfaddef, mae hi wedi bod yn amser prysur ac heriol ar adegau. Er hynny, rwy’n hynod o ddiolchgar fy mod i wedi gallu treulio’r amser bythgofiadwy o fewn amgylchedd hyfryd, sydd wedi caniatau i mi ddatblygu i ddod yn athrawes hwyliog ac effeithiol yr wyf wedi eisiau bod erioed. Dim ond i Met Caerdydd roeddwn i wedi ymgeisio oherwydd clywais gan nifer o ffrindiau a oedd yn gyn-fyfyrwyr bod y brifysgol yn gefnogol tu hwnt, yn hapus i gynnal yr un fath o brofiad prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg ac eisiau cefnogi pobl i ddatblygu eu defnydd o’r iaith i’r gorau y gallant. Felly, roeddwn i’n sicr mai dyma lle roeddwn i eisiau derbyn hyfforddiant athrawes a roedden nhw’n gywir.

Ar hyn o bryd, rwyf ar leoliad yn Ysgol Cwm Gwyddon – ysgol sy’n teimlo fel un teulu mawr. Prif flaenoriaeth yr ysgol yw ei ddisgyblion a’u llais a dangosir hyn pa mor bell mae addysgu wedi datblygu, er mwyn sicrhau’r deilliant gorau i bob disgybl. Mae addysgu plant Blwyddyn 6 ac arsylwi llawer o ddosbarthiadau eraill wedi dangos i mi fod addysgu mor dylanwadol – mae’r plant yn gwrando arnoch chi a chi sy’n gyfrifol am sut mae nhw’n profi’r ysgol, gwersi, eu hymgysylltiad, ochr yn ochr a phopeth arall! Felly, mae gweld nhw’n gwenu, gweiddi mas ‘YAY!’ wrth iddynt llwyddo ac yn cael hwyl wrth ddysgu, yw un o’r profiadau mwyaf gwerthfawr i mi brofi erioed. Hyn sydd eisiau i mi cael fy nghofio am ddysgu gwersi hwyliog, creadigol ac ysbrydoledig, a fydd yn gofiadwy a pherthnasol i’m disgyblion y dyfodol.

Mae 40 o fyfyrwyr ar y cwrs TAR cyfrwng y Gymraeg eleni, gyda’r grwp cyfan wedi’i rannu i ddau grwp ar gyfer ein sesiynau prifysgol, yn rhithiol ac ar gampws. Er fod dau grwp, mae pawb yn agos ac yn helpu ein gilydd i raddau helaeth ar unrhyw adeg. Rydym ni gyd eisiau’r gorau i’n gilydd a theimlaf fy mod i wedi magu ffrindiau newydd am fywyd.

Un mantais o astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yw’r cymorth a gofal cyson gan y brifysgol. Mae rhwystrau Covid wedi effeithio ar pob un ohonom ni, sydd wedi achosi profiadau amrywiol i bob unigolyn ar y cwrs. Serch hynny, mae’r brifysgol wastad yn flaenoriaethu’r pwysigwrydd o gydbwysedd gwaith a lles y myfyrwyr. Mae darlithwyr ar y cwrs wedi bod yn hyfryd a chyfeillgar iawn.

Mantais arall o astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yw’r cyfathrebiad rheolaidd a gewch â thiwtoriaid personol y brifysgol, yn enwedig Sioned Dafydd a Kris Sobol. Mae’r ddwy yn barod i’ch helpu gydag unrhywbeth sy’n eich poeni a rwyf wir yn werthfawrogi hyn. I fod yn onest, doeddwn i ddim yn gallu siarad yr iaith mor rugl ag oeddwn i pan orffenais fy ngradd israddedig. Fodd bynnag, ers i mi ddechrau’r cwrs, rydym wedi derbyn sesiynau Gloywi Iaith cyson, i ddatblygu myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y dosbarth, sydd wedi helpu fi’n llwyr. Mae wedi gwneud i mi gofio fy angerdd at allu siarad yr iaith a rwy’n gyffrous i addysgu’r genhedlaeth nesaf i siarad a datblygu eu defnydd o’r iaith hefyd.

Ydy, mae’r cwrs gallu bod yn ddwys ar adegau ond mae mor werthfawr. Mae astudio’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg wedi gwneud y brofiad yma hyd yn oed yn fwy gwerth chweil. Mae gwybod fy mod yn addysgu doctoriaid, gwleidyddion neu athrawon y dyfodol nawr wedi agor fy lygaid! Teimlaf yn fwy benderfynol i fod yr athrawes sydd ei angen ar blant i’w helpu i wneud eu breuddwydion yn bosibl.