Skip to content

Fy mhrofiad ar y cwrs TAR Cynradd ym Met Caerdydd

amy pippen featured image
amy pippen featured image

Helo fy enw i yw Amy Pippen, a dwi newydd gwblhau 3 mlynedd yn gyntaf yn astudio ar y cwrs Addysg Gynradd ac yna blwyddyn ar y cwrs TAR Addysg Gynradd. Wrth feddwl am fy mhrofiadau ac uchafbwyntiau ar y cwrs dwi’n teimlo fy mod wedi cael profiad positif iawn yma ym Met Caerdydd. Dwi’n hynod o falch ac yn ddiolchgar fy mod i wedi gallu treulio 4 mlynedd o fewn amgylchedd hyfryd ac wedi cwrdd â ffrindiau oes am fywyd. Mae hi wedi bod yn bedwar mlynedd prysur!

, Fy mhrofiad ar y cwrs TAR Cynradd ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS
Dyma ni’n cyflwyno ein traethodau hir!

Wrth symud ymlaen i’r cwrs TAR, roeddwn i’n rhan o grŵp o 22; roedd hyn yn wych oherwydd roedd pawb yn agos ac yn helpu ei gilydd i raddau helaeth. Fe ddaw ni’n agos dros ben ac roedd y cymorth yn hyfryd. Rydw i’n cofio teimlo’n bryderus wrth ddechrau a chwrdd â phobl newydd, ond erbyn hyn rydw i wedi sylweddoli fy mod i wedi gwneud ffrindiau am fywyd! Roedd y brif ysgol yn hyfryd ac yn gyfeillgar ar bob adeg ac y roedd hynny wedi helpu gyda setlo’n gyflym.

Un mantais o wneud rhan o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg oedd y cymorth. Roedd y cymorth fwy dwys gan ein bod yn llai fel grŵp o’w gymharu a’r grŵp Saesneg ac oherwydd hyn, roedd mynediad i gymorth ar bob adeg o bob dydd. Cefais berthynas hyfryd gyda’r darlithwyr ac roedden nhw’n gyfeillgar ac yn hyfryd ar bob adeg (hyd yn oed pan oeddwn i’n e-bostio mewn hollol banic), roedden nhw wir yn wych bob tro.

, Fy mhrofiad ar y cwrs TAR Cynradd ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS
Graddio o’r cwrs Astudiaethau Addysg Gynradd

Os ydych am astudio’r cwrs TAR byddwch wrth eich boddau gyda’r darlithwyr ac yn enwedig Sioned a Kris, roedden nhw fel ail famau wrth i mi bryderu ac rydw i wir yn ei werthfawrogi. Os ydych hefyd am gymryd darn o gymorth gen i, taflwch eich hun mewn i bopeth! Mae cymaint o gyfleoedd yn cael ei ddarparu, ac yn sicr rydw i’n eich cynghori i fanteisio ar bob un! Mae cymaint i wneud; o allu fod yn rhan o PodCast gydag addysgwyr o ar draws y wlad; i saethu roced o fewn yr adran Dylunio a Thechnoleg.

, Fy mhrofiad ar y cwrs TAR Cynradd ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS
Podlediad Emma Thayer a Tom Breeze gydag aelodau addysg 

Yn olaf cefais brofiadau anhygoel yn gweithio mas yn yr ysgolion cynradd. Roedd gweithio gyda’r disgyblion o fewn yr ysgol yn wobrwyol iawn. Cwympais mewn cariad gyda’r ddwy ysgol ac roedd y plant yn hollol hyfryd; roedd y ddau leoliad yn gyfeillgar ac yn groesawgar ac eto, roedd y cymorth yn anhygoel. Dwi wedi derbyn swydd ar gyfer mis Medi ar ôl fy nghyfweliad cyntaf ac dwi’n hollol ddiolchgar i Met Caerdydd am bopeth dros y 4 mlynedd diwethaf. Mae’n rhaid dweud dwi ychydig yn drist iawn i fod yn gadael ond yn barod i ddechrau’r swydd mae Met Caerdydd wedi’i wneud yn bosib.

, Fy mhrofiad ar y cwrs TAR Cynradd ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS
Tasg nadolig cylched trydan gyda phlant profiad dysgu 1

I gloi, allai ddim pwysleisio digon; os ydych yn meddwl am astudio ym Met Caerdydd, ewch amdani! Dwi’n falch iawn fy mod i wedi dewis prifysgol mor gefnogol, hyfryd a chyfeillgar sy’n cymell ac yn cefnogi ei fyfyrwyr ar bob adeg!