Skip to content

Fy mhrofiad anhygoel yn astudio MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd

Gethin Steadman- featured photo
Gethin Steadman- featured photo

Ymgeisio i astudio’r cwrs MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd oedd y penderfyniad gorau i fi ei wneud. Mae’n rhaid dweud cyn dechrau ar y cwrs roedd fy nealltwriaeth am ddarlledu chwaraeon o fewn y maes yn brin.

Yn fuan ar ôl gorffen fy ngradd israddedig mewn Addysg, des i’r casgliad yn fuan nad addysgu oedd y llwybr yr oeddwn am ei ddilyn, felly, fe benderfynais i gael blwyddyn allan o’r brifysgol lle cefais swydd amser llawn yn cefnogi myfyrwyr yn y Brifysgol Agored.

, Fy mhrofiad anhygoel yn astudio MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS

Gohebydd gyda Cardiff Met Sport TV. Siarad gyda Emlyn Lewis o Dîm Pel Droed Met Caerdydd am y clwb. Spin-off o’r nodwedd “team mates” ar Soccer AM

Rwy’n cofio un diwrnod roeddwn yn eistedd o flaen y cyfrifiadur, gallai rhywun fod wedi bod yn siarad â mi ac ni fyddwn wedi gwybod. Day dreaming!  Rwy’n cofio meddwl i fy hun “Geth beth wyt ti’n dda yn ei wneud?”, Roedd yn gwestiwn syml ond fe gymerias sbel i feddwl amdano.

Ar ôl sawl munud o edrych ar fy nghyfrifiadur, llygaid yn mynd yn sgwâr ac fy rheolwr gwaith siwr a fod yn meddwl “A odi yn iawn neu odi o’n daydreaman?!” Fe benderfynais bod gen i ddiddordeb mewn chwaraeon ac roeddwn i wrth fy modd yn siarad o flaen yr ystafell, felly roeddwn i’n ymchwilio i’r hyn y gallai hyn arwain ato. ‘Cyflwyno neu Adrodd Chwaraeon’. Roedd fod y Gary Lineker neu Jason Mohammed nesaf yn swnio’n wych!


Cysylltais â chyfarwyddwr y cwrs ac ymhen ychydig o fisoedd dechreuais fy nhaith cyffrous ar y cwrs Darlledu Chwaraeon.

, Fy mhrofiad anhygoel yn astudio MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS

Paratoi ar gyfer cyflwyno’n fyw ar lein!

Ers bod ar y cwrs, rwy’n teimlo’n ffodus fy mod wedi derbyn y cyfleoedd sydd gennyf mewn blwyddyn. Dwi wedi cael y profiad o gyd-sylwebu gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) ar y gemau rhagbrofol EURO dan 19 oed, fod yn Rheolwr Llawr ar gyfer S4C ar Rygbi Pawb, cyfweld â Jason Mohammed o Final Score a Match of the Day a Chyfweld â Mathew Pritchard o Dirty Sanchez tra yn y cyfnod cloi.

Nid yn unig ydw i wedi gael y profiad anhygoel hyn, ond dwi’n gweithio yn rheolaidd i Sgorio ar S4C a dwi wedi cael rôl fel rheolwr cyfryngau i Glwb Pêl-droed Met Caerdydd sy’n gweithio yn Uwch Gynghrair Cymru bob wythnos.

Yn ogystal dwi wedi cael y cyfle wneud rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Un ohonynt oedd cyflwyno sioe radio ar fy nhwrs, gweithio gyda Sgorio ar ystadegau a Rygbi Pawb fel rhelowr llawr (S4C) trwy’r iaith Gymraeg. Ond hefyd, un o’r manteision oedd y cyfle i wneud fy nghwaith ysgrifenedig yn Gymraeg.

Mae’r cwrs MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a fydd yn caniatáu i chi ddilyn eich swydd ddelfrydol o fewn y maes. Felly os ydych chi’n caru chwaraeon, ac yn hoffi’r syniad o fod mewn sefyllfa o’r fath, byddwn yn argymell yn gryf eich bod chi’n mynd amdani!

Os oes unrhyw un eisiau sgwrs am unrhywbeth sy’n ymwneud a’r cwrs neu’r profiad dwi wedi cael, peidiwch a fod yn swil i gysylltu!