Skip to content

Fy nhaith mor belled gyda Celf Gain ym Met Caerdydd

Megan Eliza featured
Megan Eliza featured

Helo, Meg ydw i. Dwi yn fy ail flwyddyn yn astudio BA Celf Gain ym Mhrifysgol Met Caerdydd. ‘Lockdown’ fel myfyriwr celf- diddorol, yw un gair i ddisgrifio’r anrhefn bresennol. Trwy’r sialensau o flwyddyn gyntaf ar y cwrs BA Celf Gain tra ni gyd yn datblygu ein hunaniaethau a sut rydyn ni’n cyfieithu hyn yn ein gwaith mae cwarantin wedi cynnig llawer o gyfleon  ni i ailosod ein perspectifau tra mae’r byd wedi newid gyda ni. 

Pam Celf Gain?

Dewisais i’r cwrs hwn yn gwybod y bydd llawer o rhyddid i ddatblygu fel  celfyddwr gyda mynediad i’r cyfleusterau dirfawr yn yr Ysgol Gelf  a Darlunio Caerdydd (neu yn fwy cydnabyddus, CSAD yn saesneg). 

Doeddwn i ddim eisiau bod yn gyfyngedig i un fath o steil neu ddelw, felly roedd Celf Gain yn ddelfrydol  achos dwi wastad yn edrych am bethau newydd i drio a sialensio fy medr.

Cyngor i fyfyrwyr newydd – dyna gwth pwysfawr ar gynysiad ar y cwrs, felly mae eich syniadau yn werthfawr iawn. Yn hytrach na’ch arfer stiwdio yn unig fel mae rhai yn tybio – mae cydbwysedd yn allweddol.

Gweithio mewn cwarantin 

Mwynheuais ein prosiect cwarantin yn ystod trydydd tymor ble roeddem ni’n gallu archwilio ein diddordebau mewn i fwy o ddyfnder, yn hytrach na bod o dan gyfarwyddiad o’n darlithwyr fel gweddil y blwyddyn, sydd wedi fy helpu i feddwl yn fwy am fy mherthynas gyda chelf yn lle eraill.

, Fy nhaith mor belled gyda Celf Gain ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS

Acrylig ar Fwrdd Mount, 420 x 300

Roeddwn i eisiau ffocysu ar effaith y pandemic gan greu celf mewn ymateb i’r hinsawdd cyfredol.  Sylweddolais fy mod i’n hyderus ar rhyngweithiad cymdeithasol yn fwy na roeddwn i wedi meddwl yn ystod y cyfnod clo.

, Fy nhaith mor belled gyda Celf Gain ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS

Dewis o fy mrasluniau prosiect cwarantîn dyddiol

Byswn i’n darlunio pobl yn fy amser rhudd, ar y bws, mewn caffi, unrhywle pan mae gen i funud sbâr. Dewisais i barhau ymarfer hon adre gan mynd drwy bob cylchgronau yn y tŷ a gwneud portread o luniau hynny fel amnewidiad am y brasluniau dyddiol y roeddwn i’n arfer gwneud yn achlysurol.

Rwy’n argymell y cwrs yn fawr i unrhyw un sydd ag angerdd am gelf ac sydd eisiau archwilio a gwthio’r hyn maen nhw’n meddwl sy’n bosibl ohonyn nhw eu hunain, gan fy mod i’n gwybod bod hyn yn sicr yn wir i mi.