Skip to content

Fy mhrofiad blwyddyn gyntaf: O astudio trwy gyfrwng y Gymraeg i fod yn llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bo Featured Photo
Bo Featured Photo

Helo! Fy enw i yw Bo a dwi’n wrthi’n gorffen fy mlwyddyn gyntaf ym Met Caerdydd. Dwi’n astudio ar y cwrs israddedig Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Penderfynais i astudio’r cwrs yma yn y brifysgol ar ôl i mi weithio a chael profiad o fewn ysgolion fel cymhorthydd Anghenion Dysgu Ychwanegol. Ar ôl mwynhau’r profiad hwn, sylwais mai addysgu yw’r swydd i mi. Treuliais lawer o amser yn ymchwilio i mewn i gyrsiau addysg gynradd, ac mae’n glir fod y cyrsiau sydd yn cynnig SAC yn caniatáu i chi addysgu mewn ysgolion yn syth. Oherwydd Covid-19 nid oedd diwrnod agored yn cael ei gynnal. Penderfynais ar ôl gweld y teithiau rhithwir o’r campws a darllen am fodiwlau’r cwrs, mai Prifysgol Met Caerdydd oedd y lle i mi.

Cefais lwyth o wybodaeth gan sawl myfyriwr a llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol  llynedd am sut i ymgeisio am ysgoloriaethau a’r holl gyfleoedd oedd ar gael wrth astudio trwy’r Gymraeg. Oherwydd y cymorth gefais ganddyn nhw penderfynais roi cais i fod yn llysgennad eleni. Bues yn llwyddiannus ac mae  26 ohonom yn llysgenhadon i’r Coleg Cymraeg eleni, yn hyrwyddo’r cyrsiau sydd ar gael yn Gymraeg a’r cyfleoedd sydd ar gael mewn Prifysgolion yng Nghymru, yn ogystal â hyrwyddo’r nifer o ysgoloriaethau sydd ar gael.

Mae bod yn llysgennad wedi bod yn brofiad gwahanol iawn eleni, ble nad ydym wedi gallu gweld ein gilydd wyneb yn wyneb o gwbl hyd yma, ond dwi wrth fy modd. Gwrandewch ar bodlediad fi a Sara (os ‘da chi ffansi!) ar Spotify ‘Sŵn y Stwidants’ i gael fwy o wybodaeth neu ewch i wefan y Coleg Cymraeg neu ddilyn y gwefannau cymdeithasol @colegcymraeg neu @dyddyfodoldi.

Er fy mod wedi derbyn fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ers dwi’n cofio,  doeddwn i ddim yn sicr os oedd cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn iawn i fi, ond fe sylweddolais fod astudio’r cwrs yn Gymraeg yn rhoi mantais mawr i fi yn y byd gwaith, enwedig os dwi am addysgu a gweithio yma yng Nghymru. Mae gen i’r dewis o gwblhau aseiniadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg sydd yn unigryw am y cwrs Addysg Gynradd gyda SAC ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Rhan mawr o’r cwrs yw profiad mewn ysgolion, eleni cafodd ein profiad ei ganslo ond dwi’n sicr bod y profiad am fod yn fythgofiadwy ac addysgol iawn pan y cawn ddechrau arni. Gan fy mod i ar gwrs Addysg Gynradd drwy’r Gymraeg bydd fy lleoliad ysgol mewn ysgol  Gymraeg, gall hyn rhoi profiadau anhygoel i mi, a chael defnyddio fy iaith gyntaf a dysgu yn fwy cyfforddus.

Mae astudio drwy’r Gymraeg yn beth gwych, a dwi wrth fy modd yn cael y wybodaeth i gyd yn ddwyieithog. Un o’r pethau gorau yw’r perthnasau agos sydd yn cael ei ffurfio gyda’r tiwtoriaid a hefyd gyda myfyrwyr eraill. Mae grŵpiau Cymraeg yn dueddol o fod yn llai na’r grwpiau Saesneg, ac yn creu rhyw gymuned glos a’i gwneud yn haws i ofyn cwestiynau. Gan bod y grwpiau yn llai gall tiwtoriaid fod yn llawer mwy cefnogol a mae mwy o amser i roi cymorth. Mae’r tiwtoriaid i gyd yn barod i wneud unrhyw beth posib i helpu a sicrhau eich bod chi’n llwyddo yn y brifysgol.