Erin ydw i. Rwy’n dod yn wreiddiol o bentref bach yng Ngogledd Cymru o’r enw Llansannan, ac rwy’n fyfyriwr Cyfathrebu Graffig yn fy mlwyddyn olaf yn yr Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Pam dewis astudio Cyfathrebu Graffig?
Dewisais astudio Cyfathrebu Graffig oherwydd y diddordeb mawr roedd gennyf yn y pwnc. Roedd dysgu fy mod i’n gallu gwneud rhan o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth gwnaeth fy helpu i benderfynu mai hwn oedd y cwrs cywir i mi. Roedd cael yr opsiwn yn bwysig, gan fy mod i bob tro yn teimlo mwy cyfforddus yn cwblhau gwaith drwy’r Gymraeg.
Mae Caerdydd yn rywle rwyf wedi mwyhau ymweld â dros nifer o flynyddoedd, ond bob tro wedi meddwl baswn i ddim yn mynd i’r brifysgol yng Nghaerdydd oherwydd y pellter o adre. Es i am gyfweliad i’r cwrs a gwnaeth hynny newid fy meddwl yn syth. Tydi’r pellter ddim yn broblem ddim mwy a chredaf fod cael gwneud gwaith yn Gymraeg yn helpu ychydig ar hyn.
Rwyf newydd gwblhau fy nhraethawd hir (Dissertation), ac wedi gallu gwneud y modiwl yma yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg, gyda chymorth gan Huw Williams sef darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio. Wrth ddechrau meddwl am gwrs a brifysgol i ddewis nôl yn 2019, yr un peth roeddwn wedi meddwl oedd cael y cyfle i wneud y gwaith yn Gymraeg. Gan fy mod i wedi mynychu Ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg, roedd gennyf ychydig o bryderon am orfod gwneud tasgau ysgrifennu yn Saesneg. Pan darganfyddais bod Met Caerdydd yn cynnig astudio cyrsiau Celf a Dylunio yn ddwyieithog, roedd hyn yn newyddion da i mi.
Cwrs Cyfathrebu Graffig
Rydym ar hyn o bryd yn cael y cyfle i wneud gwaith ar gyfer cystadleuaeth New Blood Awards 2022 gyda D&AD. Mae’r profiad yma yn ffordd dda o ddod i arfer i friffiau byw, sydd am helpu ni yn y dyfodol fel Cyfathrebwyr Graffeg. Mae hefyd yn dda gan ei bod ni’n cael y rhyddid i ddewis ein briff allan o’r nifer maen nhw’n cynnig. Rwyf wedi dewis briff cafodd ei osod gan Duolingo a The Marketing Store. A hyn gan fod ochr ymgyrchu a marchnata yn apelio i mi. Rwyf wedi mwynhau dysgu am y cwmni a meddwl am ffurf o gael eu defnyddwyr nôl fewn i wneud eu gwersi dysgu.
Mae’r cwrs yma a gweddill cyrsiau CSAD yn credu mewn gweithio gyda chyrsiau eraill. Maen nhw’n cynnig y modiwlau yma yn bennaf yn lefel 4 a 5. Pwrpas y modiwlau yw rhoi cyfle i’r myfyrwyr weithio law yn llaw gydag unigolion eraill sydd ag ymarferai gwahanol. Mae hyn yn un peth llwyddiannus maen nhw yn gwneud yn y brifysgol, gan ei fod yn gyfle i ddod i nabod pobl sydd yn yr un brifysgol a hefyd yn eich galluogi i chi ddysgu sgiliau newydd gan fyfyrwyr eraill.
Rwyf wedi mwynhau nifer o bethau dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, ond yn bennaf yr awyrgylch sydd yna rhwng y myfyrwyr a thiwtoriaid. Mae’r perthynas yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Byddaf yn drist wrth adael ond rwyf yn edrych ym mlaen i’r misoedd nesaf yn cynnwys cael graddio a rhannu fy llwyddiant gyda theulu a ffrindiau!



