Helo! Fy enw i yw Bo Leung a fi yw’r Swyddog i’r Iaith Gymraeg eleni ym Met Caerdydd. Ar hyn o bryd dwi yn fy nhrydedd flwyddyn o astudio Addysg Gynradd Gyda SAC ( Statws Athro Cymwysedig) a dwi wrth fy modd! Mae’r cyfle o gael addysgu yn fy mamiaith yn hollbwysig i mi, ac rydw i’n gweld hyn yn holl bwysig er mwyn addysgu cenhedlaeth newydd yr iaith Cymraeg a hybu’r iaith ar draws bob oedran, yn ysgolion ac yn y brifysgol.
Pam gwnes di ymgeisio i fod yn Swyddog i’r iaith Gymraeg eleni? Blwyddyn diwethaf cefais y cyfle i fod yn llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ble roeddwn yn hyrwyddo astudio drwy gyfrwng y Gymraeg i ddarpar fyfyrwyr. Dewisais i ymgeisio ar gyfer y rôl Swyddog i’r Iaith Gymraeg er mwyn gwneud yn siŵr bod lleisiau myfyrwyr Cymraeg yn cael ei glywed yn ogystal â chreu cymuned gref o Gymraeg yn y brifysgol. Gan fy mod i wedi derbyn addysg drwy gydol fy mywyd drwy’r Gymraeg, mae o’n hollbwysig i mi fod dewisiadau a phrofiadau ar gael yn y Gymraeg.
Beth yw dy rôl fel Swyddog i’r Iaith Gymraeg? Fy rôl i fel swyddog yw gwneud yn siŵr bod lleisiau myfyrwyr Cymraeg yn cael ei glywed. Os oes gen ti unrhyw broblemau ac rwyt ti’n siarad Cymraeg gyrra neges, e-bost neu unrhywbeth. Dwi yma i helpu chi ac i wneud yn siŵr bod problemau sydd yn benodol i fyfyrwyr Cymraeg yn cael ei godi ac yn cael ei wrando. Yn ogystal â helpu’r myfyrwyr, fy rôl yw hybu’r iaith Cymraeg a diwylliant Cymraeg o amgylch Met Caerdydd yng Nghyncoed a Llandaf. Os oes gen ti unrhyw syniadau neu adborth i hybu’r iaith Gymraeg fyswn i wrth fy modd yn derbyn eich syniadau ac ymgeisio i’w cwblhau eleni.
Unrhyw obeithion am y flwyddyn i ddod? Fel rhan o fy swydd rwyf wedi helpu ffurfio pwyllgor hollol newydd i’r Gymdeithas Gymraeg (Y Gym Gym) ym Met Caerdydd eleni, gyda thîm cryf rwyf yn gobeithio bydd digon o ddiddordeb gan fyfyrwyr i ymuno ar hwyl a sbri. Cyn y Nadolig roeddwn i’n brysur gyda helpu trefnu Cinio’r Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg, noson gwych! Dwi’n edrych ymlaen at drefnu mwy o ddigwyddiadau eleni felly cadwa lygaid mas!
Cofia os oes gen ti unrhyw gwestiwn, awgrymiad neu sylwad plîs cysyllta mewn un o’r ffyrdd canlynol!



