Skip to content

Fy mhrofiad fel Arweinydd Strategol Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Addysg

featured photo- Dyddgu Hywel
featured photo- Dyddgu Hywel

Dwi’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ers naw mlynedd bellach, ac mae amser wir wedi hedfan. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am noddi fy swydd am y bum mlynedd cyntaf, fel rhan o’u strategaeth i gynyddu nifer o ddarlithwyr Cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion yng Nghymru, ac i ddatblygu a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch.

Mae’r Met yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i staff i ddatblygu sgiliau personol, arweiniol a chyfleoedd gyrfa. Yn ystod blynyddoedd hapus iawn yn y Met, dwi wedi cael y cyfle i gyflawni Tystysgrif Addysgu mewn Addysg Uwch (lefel meistr), cymrodoriaeth Addysg uwch, Addysgwr Microsoft, Ymarferydd iechyd a lles yn y gweithle, Cwrs arweinyddiaeth Aurora a SWIMM, a bellach yn nghanol fy astudiaethau Doethuriaeth.


Arweinydd Strategol Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Yn ddiweddar, ces fy mhenodi fel Arweinydd Strategol Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol. Mae hi’n rôl newydd, un cyffrous, ac yn sialens newydd. Mae’r arweinydd yn gyfrifol yn strategol am holl ddarpariaeth, digwyddiadau a gweithgareddau yn ymwneud gyda’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn yr ysgol wrth gydweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol megis Llywodraeth Cymru, Estyn â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ein cynllun strategol yw cynyddu y nifer o’r myfyrwyr sydd yn astudio trwy’r Gymraeg o fewn yr Ysgol. Rhwng ein cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau TAR, yn yr Ysgol Addysg mae’r mwyafrif o’r myfyrwyr Cymraeg ar draws y Brifysgol. Mae lle i wella wrth gwrs, ac er mwyn cynyddu nifer y myfyrwyr, rhaid sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael i pob myfyriwr o fewn yr Ysgol, ac yn gymwys at ysgoloriaeth cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg.


Pam astudio trwy’r Gymraeg?

Mae nifer o fanteision dros ddewis astudio cwrs yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi am ddechrau gyda dyfyniad un o fy myfyrwyr, sydd pob amser yn aros yn y côf;

‘Yn wreiddiol dechreuais fy astudiaethau yn Saesneg yn y brifysgol, ond roedd gymaint o ganmol gan fy ffrind oedd wedi dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly cyn y Nadolig, mi wnes i benderfynu mynd amdani, a dyma’r dewis gorau dwi erioed wedi ei wneud. Roedd gen i ofn nad oedd fy Nghymraeg yn ddigon da, roeddwn i’n ddihyder… ond mae hyn i gyd wedi mynd, mae’r gefnogaeth yn wych, a dwi’n teimlo llawer mwy cyfforddus yn y grŵp seminar Cymraeg. Un cyngor sydd gen i, i fyfyrwyr sydd yn siarad Cymraeg… astudiwch yn y Gymraeg, defnyddiwch eich iaith, a mi gewch chi brofiad grêt yn y brifysgol.’

Chelsea Davies, BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd

 

Manteision eraill wrth astudio yn y Gymraeg yw bod yn rhan o grwpiau llai, cyfle i adnabod cyd-fyfyrwyr yn y grŵp, perthynas dda gyda’ch tiwtoriaid, cyfle i ddatblygu terminoleg mewn dwy iaith, datblygu sgiliau dwyieithog a fydd o fantais i chi wrth chwilio am swydd yn y dyfodol, cyfle i dderbyn arian ychwanegol wrth astudio rhan o’ch cwrs trwy’r Gymraeg. Ac ar gyfartaledd, mae cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch.


Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae uchelgais Llywodraeth Cymru i weld miliwn o bobl yn gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg erbyn 2050 yn gyfrifoldeb arnom ni gyd, gwnewch y pethau bychain.


Mae Dyddgu Hywel  yn Uwch Ddarlithydd ar y cwrs Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog) ac yn Arweinydd Strategol Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.


 

Darganfod mwy am y cwrs BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog)