Skip to content

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Met Caerdydd

St David's Day featured image
St David's Day featured image

Dydd Gŵyl Dewi Hapus! Mae’r cennin pedr yn dechrau blaguro a’r gwanwyn ar ei ffordd. Ond yn bwysicach na hynny, mae Mawrth y cyntaf yn ddydd nawddsant Cymru – yn Ddydd Gŵyl Dewi, ac yn amser i ni ddathlu Cymru, ei diwylliant a’i hiaith. Dyna’n union y byddwn ni’n ei wneud, a byddem wrth ein bodd yn eich cael chi yno gyda ni!


Mae’r Gymraeg yn iaith fyw sy’n rhan o hanfod Caerdydd a Chymru, felly mae’n rhan annatod o Met Caerdydd. Mae gennym ddiwylliant dwyieithog ac rydym yn cynnig darpariaeth a gwasanaethau o ansawdd uchel yn y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.

P’un a ydych chi’n eithaf newydd i Gaerdydd ac eisiau dysgu mwy am yr iaith, yn dysgu Cymraeg neu’n siaradwr rhugl, mae’r iaith yn perthyn i ni gyd. Fel rhan o’r digwyddiad dwyieithog arbennig hwn, bydd panel o’n cymuned Gymraeg (staff a chynrychiolydd myfyrwyr) yn rhannu eu profiadau o’r Gymraeg. Byddant hefyd yn trafod eu syniadau ar sut y gallwn ni wthio pethau ymlaen gyda’r iaith ym Met Caerdydd. Bydd y panel yn cynnwys siaradwyr rhugl a dysgwyr ar wahanol lefelau. Maent i gyd yn bleidiol dros yr iaith a bydd cyfle i chi eu holi. Bydd cyfle hefyd i chi ddysgu mwy am y Gymraeg a Dydd Gŵyl Dewi mewn cwis rhyngweithiol, a bydd gwobrau ar gael hefyd!

Bydd dathlu’n cymryd rhan ganolog yn y digwyddiad, gyda pherfformiadau cerddorol gan aelodau o Gôr Cymraeg y Brifysgol a danteithion Cymreig i bawb eu mwynhau. Dewch i glywed mwy am y Gymraeg ym Met Caerdydd ac i ddathlu dydd ein nawddsant gyda’n gilydd.

Mae digwyddiad ‘Dathlu’r Gymraeg ym Met Caerdydd’ yn rhan o #UnMetCaerdydd – sef cyfres boblogaidd o ddigwyddiadau cynhwysol i ddod â chymuned y brifysgol ynghyd, ac i ddathlu a dysgu gan ein gilydd.

 

Dyddiad: Dydd Mercher 1 Mawrth (Dydd Gŵyl Dewi)

Amser: 3.00 – 4.45yp

Lleoliad: Darlithfa O023, Llandaf

Nodwch: mae darlithfa O023 ar y llawr gwaelod ac mae dolen glyw yn yr ystafell.

Archebwch eich lle am ddim