Skip to content

Fy nhaith yn astudio Busnes a Rheoli (Marchnata) drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd

Ioan featured image
Ioan featured image

Shwmae! Fy enw i yw Ioan a dwi’n wreiddiol o Benrhyn Llyn, Gogledd Cymru ac yn fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn astudio Busnes a Rheoli gyda Marchnata.

Ar ôl cwblhau pob elfen o’m haddysg yn y Gymraeg hyd at y Brifysgol, roedd gwneud penderfyniad o astudio treian o’r cwrs yn Gymraeg yn benderfyniad reit hawdd! Sylweddolais i ddim bod modd astudio rhan o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg hyd nes yr wythnos gychwynnol o’n flwyddyn gyntaf pan gysylltwyd â mi gyda’r cyfle. Mae cymaint o opsiynau yn dod gyda gwneud rhan o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, fel gwneud y traethawd estynedig drwy’r Gymraeg os byddwn yn dymuno. Mae 2 allan o 6 modiwl y flwyddyn yn rhai Cymraeg ac mae’r rhain yn rhai craidd felly nad yw’n rhwystro neb rhag dewis llwybr ar gyfer yr ail a’r drydedd flwyddyn.

Yn fy mlwyddyn gyntaf, roedden ni mewn cyfnodau clo a doedd dim posib mynd i mewn i’r brifysgol, felly roedd cael y criw Cymraeg fechan yn ffordd dda o allu dod i nabod pobol. Roedden ni gyd yn yr un sefyllfa, ac roedd gennym ni gyd o leiaf un peth yn gyffredin – ein bod ni’n siarad Cymraeg ac yn gwneud rhan o’n gradd yn y Gymraeg gyda’n gilydd.

Mae’r criw darlithio Cymraeg yn wych ac wastad yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n oce ac yna’n gefn i chi os bydd angen. Credaf fod hyn wedi helpu sicrhau’r penderfyniad o wneud y gwaith drwy’r Gymraeg lot haws ac yn dangos i mi fy mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae’r gwaith ac adnoddau hefyd wastad ar gael yn Saesneg hefyd sydd yn golygu bod yr opsiwn o fynd i’r Saesneg yno os bod angen eglurdeb neu eich bod angen cyfieithu unrhyw beth ymhellach.

Mae’r gallu i wneud y cwrs yn ddwyieithog yn help mawr wrth fynd ymlaen i’r gweithle neu i mewn i’n haddysg bellach, credaf hyn oherwydd ei fod yn rhoi mantais ychwanegol i ni fel pobol Cymraeg i gadw’r iaith i fynd yn gryf ac i gael ei ddefnyddio. Credaf yn gryf ei fod yn beth da cadw ymlaen gyda’r Gymraeg o fewn addysg gan ei fod yn angenrheidiol nad ydyn yn ei golli. Mi ddaeth yn syndod i mi fod cyn lleied yn siarad Cymraeg yma yng Nghaerdydd pan symudais i lawr am y tro cyntaf ym mis Medi 2020, ac felly mae cael yr amser a’r lleoliad i gael defnyddio fy Nghymraeg yn hynod o bwysig a chredaf yn gryf bod mynediad i gael gwneud rhannau o’r radd drwy’r Gymraeg yn holl bwysig i Gymru ac i bobol Cymraeg.

Darganfod mwy am astudio Busnes a Rheoli (Marchanta) drwy gyfrwng y Gymraeg