Skip to content

Gwnaed fy Angerdd dros Ddylunio Gemau yn y Met 

, Gwnaed fy Angerdd dros Ddylunio Gemau yn y Met , CARDIFF MET BLOGS
, Gwnaed fy Angerdd dros Ddylunio Gemau yn y Met , CARDIFF MET BLOGS

Mae chwarae gemau fideo yn hwyl. Mae hefyd yn datblygu galluoedd amrywiol, megis ystwythder a chynllunio, ond nid yw llawer o bobl yn gwerthfawrogi y gellir harneisio’r sgiliau hyn i adeiladu gyrfa addawol. 

Roeddwn i eisiau cael swydd a oedd yn cynnwys fy nghariad at hapchwarae a’m creadigrwydd. Roeddwn i’n gwybod os oedd gen i’r sgiliau cywir, gallwn i ddylunio gemau a fyddai’n troi fy syniadau yn realiti. 

Mae astudio Dylunio a Datblygu Gemau Fideo ym Met Caerdydd wedi rhoi’r wybodaeth dechnegol a’r gallu ymarferol i mi ddod â fy nychymyg yn fyw. Drwy gydol y cwrs, rwyf wedi cael yr arweiniad yr oedd ei angen arnaf i ddilyn fy angerdd am ddatblygu gemau. 

Mae cael syniad cryf am gêm a meddwl sut y byddech chi’n ei datblygu yn ddechrau gwych. Ond heb allu a sgil technegol, dim ond fel syniad y gall barhau. Rhoddodd y cwrs Dylunio a Datblygu Gemau Fideo gyfle i mi ddatblygu set sgiliau uwch. Mae hyn wedi ehangu fy nghyfleoedd ac wedi fy arwain at lwybr gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant. 

Mae’r cwrs Dylunio a Datblygu Gemau Fideo ym Met Caerdydd yn anhygoel. Mae’r amrywiaeth eang o fodiwlau yn y sectorau cyfrifiadureg a datblygu gemau yn galluogi myfyrwyr i brofi disgyblaethau lluosog a datblygu ystod eang o sgiliau defnyddiol ar gyfer unrhyw rôl gysylltiedig mewn technoleg gyfrifiadurol. Mae’r darlithwyr a’r staff yn gwneud gwaith gwych yn cydlynu’r cwrs. 

Nid y cwrs yn unig sy’n gwella’ch bywyd. Roedd cwrdd ag unigolion o’r un anian ar yr un cwrs wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i mi. 

Rwy’n edrych ymlaen at fy ngyrfa mewn datblygu gemau ac adeiladu fy syniadau yn gemau y gall eraill eu mwynhau.