Skip to content

Darganfyddais Fy Mhotensial ac fe’m Gwnaed yn y Met 

, Darganfyddais Fy Mhotensial ac fe’m Gwnaed yn y Met , CARDIFF MET BLOGS
, Darganfyddais Fy Mhotensial ac fe’m Gwnaed yn y Met , CARDIFF MET BLOGS

Nid Met Caerdydd oedd fy newis cyntaf yn wreiddiol wrth benderfynu ar brifysgol. Ond, ar ôl dechrau fy ngradd prifysgol yng Nghaerfaddon, cwblheais interniaeth 14 mis mewn cwmni technoleg ynni byd-eang ym Mryste. 

Taniodd yr interniaeth hon fy niddordeb mewn Adnoddau Dynol yn llwyr. Roeddwn i’n gwybod fy mod angen newid i ennill y sgiliau i wireddu fy nodau gyrfa. Felly ymunais â Met Caerdydd ar gyfer fy mlwyddyn olaf o astudio, ac nid wyf wedi difaru’r penderfyniad hwnnw o gwbl. 

 Darganfod a dewis Ysgol Reoli Caerdydd oedd y penderfyniad gorau y gallwn i fod wedi ei wneud erioed ar gyfer fy nyfodol. 

Er gwaethaf ymuno â Met Caerdydd mor hwyr yn fy nhaith prifysgol, fe wnaeth staff a myfyrwyr fy nghroesawu’n gynnes a gwneud y trawsnewidiad yn brofiad mor rhwydd. Teimlais ymdeimlad o berthyn ar unwaith ac yn gyflym iawn fel fy mod wedi bod yno o’r cychwyn cyntaf. Mae egni cadarnhaol ymhlith staff a myfyrwyr ac awydd cyfunol i wneud yn dda. 

Gwnaeth y bobl, y lle a’r cwrs i mi syrthio mewn cariad â dysgu. Roedd yn llawer mwy o hwyl astudio gyda grŵp ac mewn amgylchedd lle roeddwn yn teimlo bod croeso, cefnogaeth a hapusrwydd i mi. 

Gyda’r addysgu rhagorol, y gefnogaeth a’r anogaeth gyson i gyflawni fy ngorau, graddiais gyda gradd dosbarth cyntaf a rhagoriaeth yn fy ngradd Meistr.