Ymwelais ag ychydig o brifysgolion cyn penderfynu ar Met Caerdydd.
Cyn gynted ag y cyrhaeddais y campws roeddwn yn gwybod mai dyma’r lle iawn i mi. Roedd ymdeimlad teuluol mor wych iddo ac roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith.
Yn fy mlwyddyn gyntaf roedd hi’n heriol dod o hyd i’r cydbwysedd iawn rhwng cymdeithasu, chwaraeon perfformio ac astudiaethau academaidd, ond fe lwyddais i basio. Oni bai am y gefnogaeth wych gan un o fy narlithwyr yn ystod fy ail flwyddyn efallai na fyddwn wedi parhau gyda fy astudiaethau.
Gan symud ymlaen i 2016, graddiais gyda gradd dosbarth cyntaf cyn cofrestru i wneud PhD a mynd ymlaen i fod yn ddarlithydd ar yr un rhaglen y graddiais ohoni.
Mae fy nhaith prifysgol yn dangos bod y gefnogaeth a gewch gan eich prifysgol yn hollbwysig, yn enwedig pan aiff pethau o chwith. Mae hefyd yn wers wych i fyfyrwyr fod yn wydn ac i ddyfalbarhau –gofynnwch am gymorth os oes ei angen arnoch.
Fy mhrif gymhelliant i fynd i’r brifysgol oedd datblygu fy ngyrfa bêl-droed, ond yn y diwedd darganfyddais angerdd am y byd academaidd na fyddwn i byth wedi gwybod oedd gennyf, diolch i’r staff anhygoel a’m grymusodd a’n hanogodd.
Mae fy ymdeimlad o berthyn wedi parhau ers gorffen fy astudiaethau. Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd yn cynrychioli Met Caerdydd, boed hynny ar y cae pêl-droed neu mewn cynhadledd ryngwladol, ac ni fydd hynny byth yn newid. Rwy’n falch o fod yn Archer ac yn dal i fwynhau ymweld â’r campws a dal i fyny â staff.


