Wythnos hyn yw Wythnos Ffoaduriaid – gŵyl gelfyddydol a diwylliant fwyaf y byd sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch pobl sy’n chwilio am noddfa.
Mae eleni’n nodi 25 mlynedd ers Wythnos Ffoaduriaid gyda’r thema eleni o dosturi a dathlu tosturi ar waith.
Fel Prifysgol Noddfa, mae Met Caerdydd yn falch o ddathlu Wythnos Ffoaduriaid eleni ac rydym wedi casglu rhestr o weithgareddau y gallech gymryd rhan ynddynt i ddangos eich cefnogaeth.
Mynychu digwyddiad ar y campws
Bydd Dr Clare Glennan a Dr Heidi Seage yn arddangos casgliad o bosteri a delweddau gweledol a gan ddysgwyr ar gwrs byr Seicoleg ddiweddar, a gyflwynwyd i grŵp o geiswyr lloches a ffoaduriaid o’r elusen Oasis Cardiff.
Bydd y posteri yn dangos effaith gadarnhaol ymgysylltu â dysgu ar lesaint y cyfranogwyr a byddant yn cael eu harddangos yn yr atriwm yn YRC.
Mynychu digwyddiad yn y gymuned leol
Fel Dinas Noddfa, mae gan Gaerdydd nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio i nodi Wythnos Ffoaduriaid, felly beth am fynychu un o’r digwyddiadau lleol hyn i gael ymuno â’r dathliadau.
Bydd Theatr y Sherman, Theatr Noddfa gyntaf Cymru, yn dathlu ei Gŵyl Noddfa ddydd Mawrth 20 Mehefin gyda gweithgaredd crefftio cyn yr ŵyl sy’n addas i’r teulu arvddydd Llun 19 Mehefin. Byddant yn parhau i gynnal Sesiynau Noddfa dros yr haf gyda sesiynau gweithdy rhyngweithiol am ddim yn archwilio’r thema Tosturi.
Bydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn cynnal digwyddiadau drwy gydol yr wythnos, a gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion digwyddiadau yn y cyfnod cyn Wythnos Ffoaduriaid ar eu gwefan Celebrating Home.
Ddim yn gallu mynychu digwyddiad wyneb yn wyneb? Mae City of Sanctuary UK yn cynnig noson ar-lein o ddarlleniadau barddoniaeth gyda chylchgrawn The Other Side of Hope, yr unig gylchgrawn yn y DU sy’n cael ei olygu gan ymfudwyr a ffoaduriaid ac yn cynnwys gwaith ysgrifennu gan ymfudwyr a ffoaduriaid, a Chylchgrawn Noddfa cyntaf y DU. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 22 Mehefin a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Dinas Noddfa.
Darllen/gwrando ar straeon ceiswyr lloches
Gall clywed neu ddarllen am brofiadau ceiswyr lloches ein helpu i ddeall a gweld profiad ffoaduriaid ac effaith ymfudo dan orfod o’u safbwynt nhw.
Gallwch wylio tystebau ysgolheigion noddfa y DU a gofnodwyd fel rhan o’r prosiect celf The Suitcase. Mae’r profiadau hyn yn cael eu rhannu drwy drafodaeth ar y gwrthrychau y bu’n rhaid iddynt eu gadael ar ôl, ochr yn ochr â’r gwrthrychau gwerthfawr a lwyddont eu hachub.
Mae’r prosiect Human Journeys hefyd yn ceisio rhannu straeon unigol cadarnhaol am geiswyr lloches yn y DU.
Profi eich gwybodaeth am ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Rydyn ni i gyd yn gweld penawdau ac erthyglau newyddion am ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ond faint ydych chi’n ei wybod mewn gwirionedd? Cymerwch y cwis ar wefan Refugee Action i brofi eich gwybodaeth am ffoaduriaid, y Confensiwn Ffoaduriaid, a safbwynt y DU ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Ydych chi eisiau gwella eich gwybodaeth cyn cymryd y cwis? Mae gwefan Refugee Action hefyd yn cynnig ffeithiau ac yn ateb cwestiynau cyffredin am ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches a’r hyn maen nhw’n ei brofi yn y DU.
Darllen llyfr neu gwylio ffilm
Mae llawer o lyfrau a ffilmiau ar gael, gan ac am ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn cynnig rhestr ddarllen argymelledig o lyfrau ffuglen a ffeithiol sydd ar gael i’w darllen, gan gynnwys llyfrau sy’n addas i blant.
Os hoffech chi ddarllen stori lleol, mae Hamed Amiri o Gaerdydd wedi rhannu stori taith ei deulu o Afghanistan i’r DU yn y llyfr The Boy with Two Hearts, sydd hefyd wedi’i addasu ar gyfer y llwyfan a’i berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae gwefan Wythnos Ffoaduriaid hefyd wedi rhannu detholiad bach o ffilmiau a sioeau teledu a all ein helpu i ddeall mudo a dadleoli. Mae rhai o’r ffilmiau’n archwilio themâu ymfudo a dadleoli, tra bod eraill yn cynnwys actorion o gefndiroedd ffoaduriaid. Mae’r rhestr hyd yn oed yn cynnwys ffilmiau cyfeillgar i deuluoedd sy’n archwilio ymfudo dan orfod, fel Paddington.
Anfon neges o gefnogaeth
Yn ystod Wythnos Ffoaduriaid, rydym yn eich gwahodd i rannu negeseon o dosturi, cefnogaeth ac undod â ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar draws eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ac efallai hyd yn oed rannu’r gweithredoedd syml rydych chi’n eu cymryd i roi tosturi ar waith.
Peidiwch ag anghofio cynnwys yr hashnodau #WythnosFfoaduriaid, #GweithredoeddSyml, a #TroiTosturi’nWeithred ar eich postadiau.
Am fwy o syniadau ar sut y gallech ddathlu a chefnogi wythnos ffoaduriaid, gweler ymgyrch Wythnos Ffoaduriaid Gweithredoedd Syml.


