Skip to content

Fy rôl newydd fel Darlithydd Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Addysg

Laura Dobson Profile
Laura Dobson Profile

Helo! Fy enw i yw Laura a dwi newydd ddechrau fy rôl fel Darlithydd Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg ar y cwrs: BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog) ym Met Caerdydd ac yn frwdfrydig iawn i gwrdd â myfyrwyr ac ysbrydoli cynhedlaeth newydd o ddarparwyr addysg Blynyddoedd Cynnar!

Ar ôl cwblhau gradd yn y brifysgol penderfynais ddod ‘nôl i Gymru i astudio cwrs TAR cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd – neu UWIC fel oedd ar y pryd. Dwi wedi treulio 18 o flynyddoedd fel athrawes ysgol gynradd yng Nghaerdydd, dros 10 mlynedd fel arweinydd y Cyfnod Sylfaen, neu Camau cynnydd 1 a 2 ac ar Uwch Dim Rheoli yr ysgol, felly mae addysg Blynyddoedd Cynnar yn hynod o bwysig i fi.

Rwyf yn teimlo’n gryf dros addysg cynnar, sydd yn fy marn i yn allweddol er mwyn sicrhau’r dechrau gorau a llwyddiant i bob disgybl. Yn bendant mae angen sicrhau bod y plant yn derbyn profiadau a fydd yn eu paratoi at y byd modern ac yn meithrin sgiliau allent eu trosglwyddo a’u defnyddio yn eu dyfodol, gyda’r profiad helath yma o addysgu rwyf yn gobeithio gallu rhoi profiadau perthnasol a diweddaraf i myfyrwyr fydd yn astudio cwrs Addysg Cynnar yma yn y Met.

Mi fyddaf yn addysgu rhannau o’r cwrs yn y Gymraeg, ac yn annog unrhyw fyfyriwr sydd ddim yn hyderus yn y Gymraeg i roi cynnig arni – does ddim iw golli! Yn ogystal â gweithio mewn grwpiau bach, cael mentor Cymraeg, a sesiynau gloyw iaith os oes eisiau, mae’r Coleg Cymraeg yn cynnig ysgoloriaeth cymhelliant o £500 y flwyddyn os yw myfyriwr yn astudio oleuaf 40 credyd o’u cwrs yn y Gymraeg, neu’r brif ysgoloriaeth o £1000 y flwyddyn os yn astudio o leiaf 80 credyd.Ysgoloriaethau | Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gyda Llywodraeth Cymru a’u strategaeth Cymraeg yn ceisio cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, does ddim amser gwell na mwy cyffroes i fynd mewn i fyd blynyddoedd cynnar i helpu arwain a chyrraedd y targed yma wrth addysgu plant y dyfodol.