Skip to content

Fy mhrofiad fel Arweinydd Strategol i’r Ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Mirain Rhys Profile Photo
Mirain Rhys Profile Photo

Dwi wedi bod yn gweithio ym Met Caerdydd ers 2016. Cychwynnais fel darlithydd mewn Seicoleg, ac rwyf wedi bod yn darlithio ar fodiwlau yn ymwneud a datblygiad, addysg a phrofiadau gwaith myfyrwyr ers hynny. Rwyf bellach yn cyd-arwain llwybr addysg y radd israddedig Seicoleg. Rwy’n dod o gefndir ymchwil, a chyn i mi gychwyn ym Met Caerdydd, roeddwn yn gweithio i Brifysgol Caerdydd fel cydymaith ymchwil.


Cefndir 

Cyn i mi weithio fel ymchwilydd, roeddwn yn fyfyrwraig doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Yma, edrychais ar effaith addysg ddwyieithog ar sgiliau gwybyddol ac ieithyddol plant yng Ngogledd Cymru. Astudiais fy ngradd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor hefyd, gan fy mod yn dod o’r ardal yn wreiddiol ac a diddordeb mewn dysgu mwy am ieithoedd lleiafrifol a dwyieithrwydd erioed! Yn ystod y cyfnod clo, cefais gyfle i weithio ar secondiad yn adran ymchwil gymdeithasol Llywodraeth Cymru. 


Fy rôl fel Arweinydd Strategol Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg i’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd 

Ar ôl dychwelyd o’r cyfnod secondiad, roeddwn yn llwyddiannus i dderbyn rôl newydd fel arweinydd strategol y Gymraeg yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd. Pwrpas y rôl ydy cydlynu datblygiadau darpariaeth cyfrwng Cymraeg yr ysgol, gan ddatblygu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr a staff ymwneud a’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’r rôl yn gyffroes a heriol gan fod angen annog cydweithio, a chydblethu ymysg nifer fawr iawn o raglenni israddedig o fewn yr ysgol i sicrhau profiad safonol i fyfyrwyr dwyieithog.  

Rwy’n falch ein bod ni wedi rhoi nifer i gynllun llwyddiannus ar waith er mwyn gallu darparu cyfleoedd i nifer fwy o fyfyrwyr i astudio drwy’r Gymraeg, ac er mwyn i fwy o staff allu ymwneud a’r Gymraeg o fewn y byd gwaith. Rydym wedi gweithio yn galed fel tîm i ddatblygu’r gwaith gwych oedd eisoes yn digwydd ar raglenni chwaraeon yr ysgol, yn ogystal ag ehangu’r meddylfryd positif honno i raglenni iechyd yr ysgol dros y ddwy flynedd diwethaf.  

Er enghraifft, rydym bellach yn cofrestru myfyrwyr sy’n dod o addysg Gymraeg i’r brifysgol yn ddiofyn ar fodiwlau Cymraeg er mwyn iddynt gael y cyfle gorau o fanteisio ar y ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael iddynt. Mae hyn yn hwyluso’r broses o gofrestru i’r myfyrwyr ac yn eu galluogi i wneud cais am ysgoloriaeth cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n eu galluogi i fanteisio ar dderbyn £500 y flwyddyn am 3 mlynedd am astudio drwy’r Gymraeg.  

Elfen arall o’r gwaith sy’n dod a boddhad mawr i mi ydy ein bod ni’n rhan o rwydwaith o ymchwilwyr sy’n cynnal prosiectau drwy’r Gymraeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn ogystal â’r myfyrwyr sydd eisoes yn astudio eu doethuriaethau gyda ni drwy’r Gymraeg, eleni, fe gawsom gyllid ar gyfer tri phrosiect ymchwil arall. Mae hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddeall bod eu taith iaith Cymraeg yn gallu parhau i gyfleoedd ôl-raddedig hefyd.  

Dwi hefyd yn falch iawn o’n cydweithrediad gyda’r Uned Gymraeg sydd wedi galluogi unrhyw fyfyriwr sy’n astudio gradd mewn maes iechyd i allu dysgu Cymraeg o’r newydd, drwy’r cynllun ‘Cymraeg y Sector Iechyd’. Mae’r gwersi Cymraeg ar gael am ddim i’n myfyrwyr, ac mae modd iddynt ddatblygu eu sgiliau Cymraeg dros eu cyfnod nhw yma gyda ni, er mwyn iddyn nhw allu mynd allan i’r byd gwaith ar ddiwedd eu gradd, a gallu cyfathrebu yn ddwyieithog gyda’r cyhoedd.   

 


Pam astudio Iechyd a Chwaraeon drwy’r Gymraeg? 

Wna’i ddim gwadu fod parhau i astudio drwy’r Gymraeg ar lefel addysg uwch weithiau yn gallu bod yn heriol. Mae ein myfyrwyr yn datblygu geirfa ddwyieithog ar gyfer eu pwnc, ac mae’r sgil o gyfieithu a meddwl am dy bwnc mewn dwy iaith yn gallu teimlo fel gymnasteg feddyliol weithiau! Ond dwi’n credu’n gryf fod nifer fawr iawn o fanteision o astudio pynciau chwaraeon ac iechyd drwy’r Gymraeg;  

  • Mae’n rhoi mantais gystadleuol i’n graddedigion mewn byd gwaith heriol.  
  • Mae’n cyd-fynd gyda pholisïau a gobeithion Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau siaradwyr Cymraeg ar adegau gwahanol o’u taith iaith nhw.  
  • Mae’n datblygu sgiliau dwyieithrwydd unigolion fydd yn gallu eu cynorthwyo yn y byd gwaith o ran gwybodaeth bynciol mewn mwy nac un iaith.  
  • Mae’n gyfle gwych i barhau i ddatblygu rhwydwaith Cymreig mewn profiad addysg uwch.  
  • Yn aml iawn, mae dosbarthiadau llai, sy’n caniatáu i’r addysgwyr a’r myfyrwyr weithio mewn ffordd fwy holistaidd, amserol a phenodol gan ystyried y pwnc yn ddwyieithog.  
  • Mae cyfle i fanteisio ar ddatblygu fel graddedigion proffesiynol dwyieithog drwy ymwneud a mudiadau megis y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r rhwydweithiau Cymraeg sydd ar gael ym Met Caerdydd.  

Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi ei gyflawni yma yn yr ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd dros y blynyddoedd ac roedd hi’n fraint fod hyn wedi ei gydnabod gan y Brifysgol yn ddiweddar gan i’r tîm addysgu cyfrwng Cymraeg dderbyn canmoliaeth uchel yng ngwobrau’r Is-ganghellor yn 2023. Ond, dwi ddim yn un i aros yn yr unfan ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu cyfleodd pellach i’n holl fyfyrwyr ymgysylltu gyda’r Gymraeg yn y dyfodol drwy ehangu’r gwersi Cymraeg i bawb, datblygu modiwlau Cymraeg pwrpasol i ehangu’r nifer o gredydau sydd ar gael i fyfyrwyr, a thyfu ein tîm o addysgwyr cyfrwng Cymraeg ymhellach. I’r gad!

 


Mae Dr Mirain Rhys yn Uwch Ddarlithydd ar y cwrs BSc (Anrh) Seicoleg ac yn Arweinydd Strategol i’r Ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd.


Darganfod mwy am y cwrs BSc (Anrh) Seicoleg