Fy enw i yw Luned Jones ac rwy’n astudio’r cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Roeddwn wastad yn gwybod taw Met Caerdydd roeddwn i eisiau mynychu. Yn bersonol, doedd dim un prifysgol arall yn gallu cynnig unrhywbeth tebyg i beth roedd y Met yn eu gynnig. I ddechrau roeddwn yn ansicr o ba gwrs i ddewis. Roedd gen i gymaint o opsiynau. I ddweud y gwir, i rywun fel fi sy’n caru Chwaraeon gymaint, roedd edrych ar yr holl gyrsiau oedd ar gael fel bod mewn siop losin! Roeddwn i mor gyffrous pan ffeindiais y cwrs AChAG ar wefan UCAS Met Caerdydd. Roeddwn i mor hapus i ddod o hyd i gwrs ble roeddwn yn gallu parhau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hyn yn sicr yn gwneud fy mywyd yn haws! Rwy’n llawer mwy hyderus yn astudio drwy’r Gymraeg gan fy mod yn dod o gartref Cymraeg ac wedi mynychu ysgol gynradd ac uwchradd Cymraeg ym Mro Morgannwg. Roedd meddwl am y cwrs yma felly yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol yn syth.
Profiad yn astudio’r cwrs AChAG
Rydw i wrth fy modd yn astudio’r cwrs AChAG. Un o’r pethau rwy’n caru am y cwrs yw’r ffaith ein bod yn astudio mewn grwpiau bach. Rydyn ni’n grŵp o 12 myfyriwr felly rydyn ni’n cael llawer mwy o sylw na’r grwpiau Saesneg sy’n fuddiol iawn. Yn ogystal â hyn, rydw i wastad wedi magu hyder wrth weithio mewn grwpiau llai. Mae’n deimlad cysurus ac i ddweud y gwir mae pawb fel un teulu mawr. Hefyd, mae gyda ni fwy o gyfle i dderbyn cymorth ac adborth gan ein darlithwyr ac maen nhw wastad yn barod i helpu. Mae bod mewn grŵp bach yn peri i ni ddatblygu perthynas da gyda’r darlithwyr ar hyd y cwrs.
Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Un o brif fanteision astudio drwy’r Gymraeg yw cael y cyfle i dderbyn ysgoloriaeth o £500 neu £1000 y flwyddyn o’r Coleg Cymraeg. Gwnes i gais ar gyfer y brif ysgoloriaeth ac yn ffodus iawn rwy’n derbyn £1000 ychwanegol y flwyddyn! Fel mae pawb yn gwybod, mae bywyd prifysgol yn ddrud iawn felly mae derbyn yr arian yma yn help mawr, yn arianu fy mywyd cymdeithasol! Mae bod yn fyfyriwr mewn dinas mor anhygoel â Chaerdydd yn gostus ond yn werth bob ceiniog! Os oes gyda chi’r cyfle i hyd yn oed astudio rhan o’r cwrs drwy’r Gymraeg, ewch amdani!
Llysgennad i’r Coleg Cymraeg
Rydw i hefyd wedi cael y cyfle i fod yn llysgennad i’r Coleg Cymraeg. Fy rôl fel llysgennad yw ceisio denu mwy i astudio yng Nghymru trwy rannu fy mhrofiadau yn y Brifysgol. Mae bod yn llysgennad i’r Coleg Cymraeg yn ffordd o gwrdd â phobl newydd o brifysgolion ar draws Cymru. Dydw i ddim wedi cwrdd â’r llysgenhadon eraill eto felly rwy’n edrych ymlaen ar gyfer y trip i Langrannog sydd wedi cael ei drefnu i ni. Fe fydd hyn yn gyfle gwych! Fel llysgennad byddaf yn ymweld ag Ysgolion Uwchradd i geisio perswadio myfyrwyr am fanteision astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae defnydd yr iaith wedi datblygu gymaint ond mae ei dyfodol yn dibynnu ar bobl ifanc fel ni. Mae gymaint o swyddi nawr yn gofyn am yr allu i siarad yr iaith Gymraeg. Rydw i’n adnabod gymaint o fyfyrwyr sydd wedi difaru colli ar y cyfle o astudio drwy’r Gymraeg felly meddyliwch yn ofalus am y profiad gwerthfawr yma.
Darganfod mwy am astudio’r cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol drwy’r Gymraeg



