Skip to content

Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs MA Addysg (Cymru) drwy gyfrwng y Gymraeg

Stephanie Williams
Stephanie Williams

Stephanie Williams

Fy enw i yw Steph, ac rydw i yn fy mlwyddyn olaf o’r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) ym Met Caerdydd. Mae astudio gradd Meistr wedi bod yn uchelgais i mi, yr unig gwestiwn oedd beth i’w astudio a phryd. Cwblheais y cwrs TAR Uwchradd Drama yn 2017, ac yn ystod fy mlynyddoedd fel athrawes daeth yn amlwg fy mod eisiau cwblhau gradd Meistr mewn Addysg gyda ffocws ar Les ac ADY. Llwyddais i ennill cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer fy nghwrs a defnyddio fy nghredydau lefel 7 o fy nghwrs TAR a oedd yn caniatáu i mi neidio i ail flwyddyn y cwrs. Roedd hyn yn hynod ddefnyddiol o safbwynt ariannol ac amser. Dewisais Met Caerdydd gan ei fod yn gyfarwydd i mi a chaniataodd i mi adeiladu ar y wybodaeth flaenorol a gefais o fy nghwrs TAR. Roedd hi hefyd yn bwysig i mi gwblhau’r cwrs yn Gymraeg, ac roeddwn i’n gallu gwneud hyn drwy’r brifysgol. 


Pa fudd wyt ti cael o astudio ar y rhaglen MA Addysg Genedlaethol (Cymru)? 

Mae gan yr MA Addysg (Cymru) amrywiaeth o fodiwlau i ddewis ohonynt, a oedd yn caniatáu i mi ddewis y meysydd a fydd o’r budd mwyaf i’m hymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Roedd y modiwl ‘Lles Emosiynol a Meddyliol’  o ddiddordeb i mi gan ei fod yn faes yr wyf yn teimlo’n angerddol amdano. Gyda chwricwlwm lles bellach yn ofyniad statudol yn y Cwricwlwm i Gymru, teimlais fod y modiwl hwn yn ddelfrydol i mi. Helpodd y modiwl hwn wella fy nealltwriaeth o’r maes hwn a bu’r aseiniad yn gymorth i mi ymgorffori’r damcaniaethau a astudiwyd yng nghyd-destun fy ysgol. 

 Yr ail fodiwl y dewisais ei astudio oedd Arwain a Rheoli ADY. Teimlais fod y modiwl hwn wedi fy helpu yn fy arferion cynhwysol yn yr ystafell ddosbarth ond hefyd wedi fy ngalluogi i archwilio arddulliau rheoli ac arwain a oedd wedi fy helpu yn fy rôl bresennol. Roedd yn fuddiol hefyd i ddysgu am y diwygiad ADY newydd gan Gydlynwyr ADY profiadol yn ystod diwrnodau cynhadledd. 

Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ar fy nhraethawd hir lle rwyf wedi gallu dewis maes sydd o ddiddordeb i mi ei archwilio. Rwyf wedi mwynhau’r agwedd hon hyd yn hyn, gan fy mod wedi dewis maes a fydd yn helpu fy ymarfer addysgu fy hun, ond hefyd helpu ar lefel ysgol gyfan. 


Beth yw uchafbwyntiau’r rhaglen hyd yn hyn? 

Rwyf wedi mwynhau gallu rhoi theori ar waith ac mae gweld y manteision i’m disgyblion wedi bod yn hynod o wobrwyol. Rwyf wedi adlewyrchu a gwella fy arferion fy hun, ac rwy’n gyffrous i rannu canfyddiadau fy nhraethawd hir gyda fy nghydweithwyr. Rwyf hefyd wedi gallu bod yn fodel rôl dda ar gyfer fy nisgyblion, gan ddangos iddynt fy mod yn dal i ddysgu pethau newydd ac yn herio fy hun. 

Roedd diwrnodau’r gynhadledd yn gyfle gwych i rwydweithio ag eraill, a thrafod y cynnwys dan sylw. Cefais hyder wrth gyfrannu at drafodaethau grŵp a helpodd fi i ddyfnhau fy nealltwriaeth. 

Mae hyblygrwydd y cwrs wedi bod yn hynod fuddiol. Mae pob sesiwn yn cael ei recordio felly rydw i wedi gallu dal i fyny ar sesiynau a gollwyd oherwydd cyfarfodydd ysgol neu ail-wylio sesiynau i fy helpu gyda fy aseiniadau. Rwyf hefyd wedi ailddarganfod fy hoffter o ddarllen, ac wedi gwneud y mwyaf o fy mynediad i’r llyfrgell! 


Pam dewis astudio’r rhaglen yn y Gymraeg ? 

Mae wedi bod yn hynod fuddiol i mi gwblhau’r cwrs yn Gymraeg gan fy mod yn athrawes mewn ysgol uwchradd Gymraeg . Braf hefyd oedd gallu ysgrifennu’n estynedig yn Gymraeg ar ôl heb wneud hynny ers cwpl o flynyddoedd. Unwaith eto, mae’n bwysig i mi fod yn fodel rôl i’m disgyblion o ran dysgu barhaus, ond dysgu parhaus drwy’r Gymraeg. Mae hyn yn rhywbeth dwi’n angerddol amdano ac mae Met Caerdydd wedi bod yn wych, gyda’r holl adnoddau ar gael yn Gymraeg. 


Sut brofiad ydy hi i fod yn athrawes llawn amser a bod yn fyfyriwr ar yr un pryd? 

Gan fy mod yn athrawes ysgol uwchradd, ynghyd â chyfrifoldebau eraill, mae amser yn werthfawr. Yr hyn sydd wir wedi fy helpu yn ystod y cwrs yw blaengynllunio a nodi amseroedd prysur yn ystod yr ysgol, fel sioeau ysgol, a dyddiadau cau ar gyfer aseiniadau. Galluogodd hyn i mi gynllunio fy amser yn effeithlon a rhannu’r gwaith yn ddarnau bach y gellir eu rheoli. Er, roedd dreulio ambell ddydd Sadwrn yn  wneud gwaith yn y Llyfrgell yn hynod o fuddiol, ac yn caniatáu i mi fwrw ymlaen heb ymyrraeth. 


Beth wyt ti’n ei ddysgu bydd o gymorth i ti yn yr ystafell ddosbarth? 

Rwyf wedi dysgu cymaint o’r cwrs ac mae wedi rhoi’r hyder i mi wneud newidiadau allweddol i’m hymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r modiwlau wedi fy ngalluogi i fyfyrio ar fy ymagweddau at les Emosiynol a Meddyliol, a threialu strategaethau gwahanol. Roedd y modiwl ADY yn caniatáu i mi adolygu fy arferion ADY yn feirniadol a rhoddodd y diwrnodau cynhadledd syniadau gwych i mi ar wneud fy ngwersi yn fwy cynhwysol. 

Darganfod mwy am y cwrs MA Addysg (Cymru)