Skip to content

Dod o Hyd i Fy Llais mewn Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd

Fathema presenting and interviewing
Fathema presenting and interviewing

Fathema ydw i, ond mae pawb yn fy ngalw i’n Fats. Ar hyn o bryd rwy’n astudio MSc Darlledu Chwaraeon, ac alla i dal ddim credu bod y cwrs yma’n bodoli! Rydw i wedi dod i adnabod Met Caerdydd fel prifysgol chwaraeon, felly gan fod mod i wrth fy modd efo chwaraeon doedd dim dewis arall. Fodd bynnag, pan wnes i gysylltu gyntaf ynglŷn â’r radd hon, a dweud y gwir, doeddwn i ddim yn rhy iach yn feddyliol ac felly penderfynais gymryd blwyddyn i ffwrdd i ganolbwyntio arnaf fy hun. Fe wnaeth y flwyddyn hedfan a chyn pen dim roedd hi’n amser eto i wneud cais, a bûm yn ddigon ffodus i gael fy newis ar gyfer bwrsariaeth S4C hefyd, a wnaeth fy newis yn haws. Nid yn unig roeddwn i wrth fy modd â chwaraeon, ond roeddwn i’n awyddus i siarad  Cymraeg eto!

Ar ôl derbyn y fwrsariaeth, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael gweithio i sawl cwmni gwahanol gyda chymaint o bobl dalentog fel Media Atom, Whisper, Boom Cymru, sy’n rhoi sylw i fathau gwahanol o chwaraeon. Rydw i wedi cael y cyfle i weld sut beth yw chwaraeon byw, drwy weithio ar y tryciau cynhyrchu a thu allan mewn rolau fel cofnodwr gemau, rheolwr llawr a chymaint mwy.

Fathema presenting BUCS

Rwy’n gyffrous iawn i fynd i fyd gwaith gan fod y cwrs hwn wedi rhoi profiadau amhrisiadwy i mi ac wedi helpu i roi hwb i’m hyder i ddod yn gyflwynydd chwaraeon. Nid yn unig mae’r cwrs hwn wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi gyflwyno, ond mae hefyd wedi caniatáu i mi ddeall sut beth yw bod y tu ôl i’r camera, gan fy mod yn credu, er mwyn bod yn gyflwynydd da, ei bod hi’n dda gwybod am bob rôl. I rywun sydd erioed wedi cyffwrdd â chamera nac wedi cael profiad o  olygu, mewn ychydig fisoedd, rydw i wedi dysgu cymaint o sgiliau fel defnyddio camera, golygu, creu cynnwys chwaraeon a llawer mwy sydd i gyd yn bwysig o ran cyfleoedd swyddi.

Bydd y cwrs hwn yn eich herio, ond mewn ffordd dda. Bydd yn dod â sgiliau allan nad oeddech chi’n gwybod eu bod gennych chi.  Pe bawn i ond yn gallu rhoi un darn o gyngor..manteisiwch ar BOB cyfle. Mae’r ffaith bod eich darlithwyr yn dal i weithio yn y diwydiant chwaraeon a bod ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad yn dweud llawer wrthych chi am yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu a sut rydych chi wir mewn dwylo da. I ychwanegu at hyn, dychmygwch fod mewn dosbarth yn llawn pobl sy’n caru chwaraeon fel chi? Mae hyn yn bosibl. Mae’r cwrs hwn yn ei gwneud hi’n bosibl!

Fathema behind camera

Roeddwn i’n betrusgar wrth wneud cais yr ail dro,  ac yn amau ​​na fyddwn i’n perfformio cystal ag yr hoffwn i oherwydd fy mod i’n cael trafferth gyda fy iechyd meddwl ac yn poeni na fyddwn i hyd yn oed yn ffitio mewn i ddiwydiant sy’n cael ei ddominyddu’n drwm gan ddynion? Roeddwn i’n poeni na fyddwn i hyd yn oed yn ffitio mewn i ddiwydiant lle nad wyf yn gweld rhywun sy’n gwisgo’r hijab neu’n edrych yn debyg i mi o gwbl? Fodd bynnag, dyma’r penderfyniad gorau rydw i wedi’i wneud ac os nad yw pobl fel ni yn torri’r rhwystrau, pwy fydd yn gwneud? Rwyf mor ddiolchgar am y cwrs hwn a Bwrsariaeth S4C am ganiatáu i mi wneud yn union hynny.