Helo! Fy enw i yw Catrin Fflur a dwi’n fyfyrwraig a chynrychiolydd trydedd flwyddyn ar y cwrs BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog) drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Met Caerdydd.
Mae’r syniad o gael swydd gyda phlant wastad wedi bod o ddiddordeb i mi. Mae gweithio gyda phlant yn dod yn naturiol i mi gan fy mod yn chwaer fawr i ddwy chwaer a dau frawd. Dros y blynyddoedd mae llawer o gwestiynau wedi codi o ran eu datblygiad nhw ac wedi sbarduno fy niddordeb i fod eisiau astudio ymhellach drwy’r adran yma.
Pan gychwynnais ddewis cwrs i astudio mewn prifysgol, nid oeddwn yn siŵr beth oeddwn eisiau mewn swydd, ond roeddwn yn bendant fy mod eisiau gweithio gyda phlant. Nawr rydw i’n falch fy mod i wedi dewis y cwrs yma i astudio. Mae yn gwrs gyda nifer o fodiwlau sydd yn edrych yn ddwfn ar theori a pholisi ynglŷn â phlant.
Fy hoff brofiad, sydd yn ddarn mawr o’r cwrs Addysg Gynnar yw’r cyfle o gael profiad ymarferol mewn lleoliad. Yn ystod y tair blynedd o astudio’r cwrs yma, mae rhywun yn cael ymarfer mewn tri o leoliad gwahanol. Rwyf eisoes wedi cael profiad mewn Ysgol Gynradd ac mewn Meithrinfa yng Nghaerdydd ac wedi dod i adnabod a gweithio gydag athrawon a gofalwyr plant hollol ysbrydoledig. Byddaf wastad yn ddiolchgar am y pleser o fod mewn lleoliadau a dosbarthiadau gwahanol. Mae’r profiad wedi fy ysbrydoli, lle nawr rydw i yn gobeithio pan fyddai’n graddio o’r cwrs yma mi ai ymlaen i ddilyn cwrs TAR Addysg Gynradd i fod yn Athrawes Meithrin.
Gan gychwyn yr ail flwyddyn, ag nawr hyd y trydydd, mi gymerais y rôl o fod yn gynrychiolydd fy mlwyddyn y cwrs. Fy rôl fel cynrychiolydd yw casglu adborth oddi wrth fy nghyd-fyfyriwr ac yn adrodd yn nol i ein tiwtoriaid mewn cyfarfod ar-lein pob tymor. Dwi wedi dysgu nifer o bethau gyda hyn sy’n cynnwys rôl y gallu i gyfathrebu’n glir ac i fod yn fwy hyderus mewn trafodaeth. Mae’r rôl yma wedi cynnal llawer o gyfleoedd i mi, enghraifft o hyn yw’r gallu i gynnal diwrnod agored gyda fy nhiwtor ac i gynnal blas o’r cwrs i ddisgyblion sydd eisiau mynd ymlaen i astudio yn y Brifysgol.
Darganfod mwy am astudio’r cwrs BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol drwy’r Gymraeg.



