Skip to content

Profiad gwaith gyda fy nghwrs Therapi Iaith a Lleferydd

Miriam Hedd Williams
Miriam Hedd Williams

Helo! Miriam Williams ydw i, a fi yn fy nhymor olaf yn astudio Therapi Iaith a Lleferydd ym Mrhifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dros y bedair mlynedd diwethaf, dwi wedi cael amrywiaeth o brofiadau yn gweithio gyda chleifion mewn ysbytai, ysgolion a chlinigau. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant ac oedolion gyda phroblemau iaith, lleferydd, cyfathrebu a phroblemau llyncu (Dysphagia’). 

Gan fy mod yn siaradwr iaith gyntaf Gymraeg, dwi wedi cael cyfle i weitho gyda chleifion trwy’r Gymraeg ac wedi gallu cynnig therapi a chymorth therapi iaith a lleferydd iddynt trwy’r Gymraeg. Rwyf hefyd wedi cael profiadau o fod ar leoliadau dros Gymru gyd, gan gynnwys bod yn y gogledd haf ddiwethaf am chwe wythnos.

Yn ystod y lleoliad bloc yma, cefais gyfle i ddod i nabod fy nghyd-weithwyr yn dda iawn, yn ogystal a dod i ddeall a gwerthfawrogi meysydd gwaith eraill trwy gysgodi Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapydd yn gweithio gyda chleifion ar y ward stroc. Ar ol y profiadau hyn, sylweddolais pa mor hanfodol a phwysig yw hi i Therapyddion Iaith a Lleferydd i gyd-weithio yn agos gyda gweithwyr galwedigaethol arall a sicrhau ein bod ni’n deall rolau ein gilydd wrth weithio gyda chleifion.

Yn ogystal a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar leoliad, mae’r cwrs yma hefyd wedi cynnwys seminarau clinigol i’r rheiny sy’n siarad Cymraeg, y cyfle i ysgrifennu fy nhraethodau drwy’r Gymraeg ac hefyd dwi wedi cael tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg ar hyd fy nghyfnod yn y brifysgol.

, Profiad gwaith gyda fy nghwrs Therapi Iaith a Lleferydd, CARDIFF MET BLOG

Trwy’r profiadau uchod, dwi wedi gallu dysgu sut i ddefnyddio’r holl sgiliau a gwybodaeth ar hyd y bedair mlynedd diwethaf mewn darlithoedd mewn gosodiad clinigol gyda chleifion go iawn. Boddhad oedd hi i allu gweld sut oedd cleifion yn gwerthfawrogi mewnbwn a chymorth therapi iaith a lleferydd yn eu bywydau.

Ond yn fwy beth, roedd hi’n bleser gallu cynnig y therapi a’r cymorth trwy’r Gymraeg- yn enwedig i rheiny oedd yn uniaith Gymraeg neu yn llawer fwy hyderus yn cyfathrebu a defnyddio’r Gymraeg. Edrychaf ymlaen at raddio haf yma a gallu defnyddio’r holl sgiliau dwi wedi dysg ar leoliad a mewn darlithoedd yn gy ngyrfa yn y dyfodol, yn enwedig i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg!