Bywyd Cymdeithasol fel Myfyriwr Cymraeg

Yn ddiweddar bues i a grŵp o fyfyrwyr Met Caerdydd yn Aberystwyth i fwynhau ym mhenwythnos y Ddawns Ryngol. Roeddem yn ymuno ar y trip gyda Chymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd.
Heb os, y ddawns Ryngol ydy un o brif uchafbwyntiau calendr unrhyw fyfyrwyr Cyfrwng Cymraeg drwy gydol y wlad.
Mae’n benwythnos unigryw, lle mae Cymry Cymraeg o bob rhan o’r wlad yn dod at eu gilydd i ddathlu ein diwylliant felly be well?

Ar y nos Wener, cynhaliwyd stomp yn yr Hen Lew Du. Digwyddiad i unrhyw un geisio ei dawn ar farddoni. Roedd yn ddigwyddiad llawn hwyl mewn awyrgylch gwbl ymlaciol gyda ffrindiau.
Roedd gweddill y noson yn gyfle i fynd o amgylch tafarndai Aberystwyth yn cymdeithasu gyda myfyrwyr o holl brifysgolion Cymru. Roedd yn noson wych (o be dwi’n cofio!!)
Bore Dydd Sadwrn, cynhaliwyd twrnament pêl-droed. Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd daeth yn fuddugol yn y twrnament, anlwcus Bangor ac Aber!! Ar ôl y twrnament orffen, tuag amser cinio, roedd yn amser dychwelyd i’r Hen Lew Du i ail ddechrau gyda’r hwyl.

Cafodd gweddill y diwrnod ei dreulio yn gwylio’r gêm rygbi rhwng Cymru a Tonga a thrafod rhai o ddigwyddiadau’r noson gynt ymysg ein gilydd, y lleiafsy’n cael ei ddweud y gorau!!
Wrth i’r ddiwrnod fynd ymlaen, roedd pawb yn ymuno drwy ganu nifer o ganeuon Cymraeg gwahanol, gyda’r awyrgylch arbennig yma, a’r cwrw’n llifo, roedd pawb wrth ei bodd!
Gyda’r nos cynhaliwyd uchafbwynt y penwythnos sef y Ddawns ei hun. Roeddrhai o fandiau mwyaf Cymru yn chwarae megis Candelas, Gwilym a Los Blancos.
Dyma gyfle olaf y penwythnos i bawb ddod ynghyd i fwynhau gyda’n gilydd. Nosonarall arbennig a gwyllt!
A dyna ni, y ddawns Ryngol ar ben am flwyddyn arall, a’r ddawns olaf i mi fel myfyriwr yn y drydedd flwyddyn.
Dwi’n teimlo’n lwcus iawn i fod yn Gymro a fy mod wedi cael cymryd rhan mewn digwyddiadau fel hyn gyda fy nghyd Gymry tra yn y Brifysgol.
Am ddarllen mwy o flogiau yn Gymraeg? Darllenwch ein blogiau Cymraeg yma