Skip to content

Tyfodd fy ewyllys i ennill o’r Met

, Tyfodd fy ewyllys i ennill o’r Met, CARDIFF MET BLOGS
, Tyfodd fy ewyllys i ennill o’r Met, CARDIFF MET BLOGS

Mae Met Caerdydd yn cynrychioli cyfnod pwysig a phleserus iawn yn fy mywyd, a’r uchafbwynt oedd bod yn rhan o’r clwb Tenis.

Bûm yn gapten ar y tîm cyntaf a chynrychiolais y Saethwyr trwy gydol fy nhair blynedd o astudio.

Roedd bod yn rhan o’r clwb Tenis wedi siapio fy amser yn y brifysgol. Roedd cymryd cyfrifoldebau yn y clwb, rheoli cyllidebau a hyfforddi chwaraewyr eraill yn rhoi sgiliau gwerthfawr i mi, a gwnes ffrindiau hefyd sy’n parhau i fod yn rhan o fy mywyd.

Nid prifysgol yn unig yw Met Caerdydd, mae’n gymuned. O’r cymdeithasau i’r darlithwyr a’r staff, dydych chi byth yn teimlo’n unig – mae wastad rhywun i siarad â nhw.

Yn ystod fy amser yno ni allwn gerdded drwy’r coridorau heb ddweud helo wrth nifer o wahanol bobl, hyd yn oed os oeddent mewn grŵp blwyddyn gwahanol neu ar gwrs gwahanol.

Creodd y campws a’r cyfleusterau fwy na dim ond gofod addysgu. Roedd hefyd yn ofod cymdeithasol lle gallech chi gymdeithasu gyda ffrindiau. Beth arall allech chi ei eisiau o’ch profiad prifysgol?

Mae’r hyder a’r sgiliau a enillais ym Met Caerdydd yn sicr wedi bod yn ddefnyddiol wrth adeiladu fy ngyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus (PR).

Rwyf bellach yn un o dri chyd-sylfaenydd Bottled Imagination, asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus digidol creadigol sy’n gwasanaethu cleientiaid ar draws amrywiaeth o sectorau (www.bottledimagination.com). Ein nod yw gwneud gwaith cysylltiadau cyhoeddus creadigol sy’n gyrru gwelededd organig ar-lein. Mae cleientiaid yn cynnwys brandiau fel Puma a Fenwick ymhlith eraill. Rydym wedi ein lleoli ym Manceinion ac mae gennym dîm o chwech, yn edrych i logi dau arall yn fuan.

Rwy’n ddiolchgar i Met Caerdydd am helpu i wneud i hyn ddigwydd.