Ar ôl gweithio yn y diwydiant ffasiwn am flynyddoedd lawer, ym maes gweithgynhyrchu a datblygu cynnyrch, roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am fy niwydiant o safbwynt busnes.
Fe wnes i’r penderfyniad i gamu allan o’m cylch cysur a rhoi cynnig ar rywbeth yr oeddwn yn amau y byddai gennyf y gallu i’w wneud ar yr adeg honno.
Ymgeisiais am yr MSc mewn Rheoli Marchnata Ffasiwn yn Ysgol Reoli Caerdydd. Gweithiais yn galed. Yn galed iawn.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae gwaith ymchwil fy ngradd Meistr wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolyn ffasiwn rhyngwladol. Rwyf bellach yn gweithio ym Met Caerdydd, yn addysgu ac yn ysbrydoli eraill gyda fy angerdd at y byd academaidd, a’m dealltwriaeth ohono.
Roeddwn i’n bryderus i ddechrau am y newid o fod yn fyfyriwr i ddarlithydd ym Met Caerdydd, oherwydd natur wahanol iawn y rolau rydym ni’n eu chwarae, ond roeddwn i mor falch o gael fy mhrofi’n anghywir.
Hyd yn oed fel myfyriwr, roeddwn i’n teimlo bod rhywun yn gwrando arna i, fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi, a fy mod i’n bwysig. Ac ers ymuno fel aelod staff, rwy’n dal i deimlo’r holl bethau hynny. Mae’r hunan-gred sydd gennyf bellach ynof fy hun a’m galluoedd wedi cael hwb yn ystod fy amser yn astudio ac yn addysgu ym Met Caerdydd. Nid wyf erioed wedi teimlo mor falch ohonof fy hun a’m cyflawniadau.
Newidiodd Met Caerdydd fy nghanfyddiad o beth yw prifysgol, gan roi’r sgiliau, gwybodaeth a hunan-gred i mi geisio rhywbeth newydd.


