Dydd Miwsig Cymru Hapus!
Oeddech chi’n gwybod mai heddiw yw Dydd Miwsig Cymru?
Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg.
Nod Dydd Miwsig Cymru yw cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd a dathlu’r ystod amrywiol o gerddoriaeth sy’n cael ei gwneud yn Gymraeg a’r artistiaid sy’n ei gwneud a’i rhannu.
Mae eleni yn nodi deng mlynedd ers i’r dathliadau ddechrau’n swyddogol.
Dywedodd sylfaenydd Dydd Miwsig Cymru, cyflwynydd radio’r BBC, Huw Stephens:
“Beth bynnag sydd gennych chi, mae Dydd Miwsig Cymru yn ddiwrnod i’ch helpu chi i ddarganfod cerddoriaeth y byddwch chi’n ei charu. Efallai eich bod chi’n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn barod, neu efallai nad ydych chi wedi gwrando arni ers blynyddoedd. Mae yna gerddoriaeth anhygoel o bron bob genre, i gyd yn cael ei wneud yn yr iaith Gymraeg… Rhowch gynnig ar rywbeth ac efallai y byddwch chi’n dod o hyd i’ch hoff sain newydd.”
Lleoedd i glywed Cerddoriaeth Gymraeg
Mae digonedd o lefydd ar draws Cymru yn gyson yn arddangos y sîn gerddoriaeth Gymraeg fywiog.
Wedi’i sefydlu yn 1983, mae Clwb Ifor Bach wedi dod yn ganolbwynt cerddoriaeth eiconig yng Nghaerdydd a Chymru, gan groesawu cerddoriaeth o bob cornel o’r byd. Mae Caerdydd hefyd yn gartref i wyliau cerddoriaeth fyw gwych Tafwyl a Sŵn.
Sut alla i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ym Met Caerdydd?
Dydd Gwener 10 Chwefror, bydd Met Caerdydd yn dathlu’r diwrnod arbennig hwn, gyda digwyddiadau ar draws ein dau gampws.
Campws Llandaf
Ble? Gofod calon ar lawr cyntaf yr Ysgol Celf a Dylunio
Pryd? Dydd Gwener 10 Chwefror, 1.00 – 2.00pm
Campws Cyncoed
Ble? Bar Center
Pryd? Dydd Gwener 10 Chwefror.
Beth? Cerddoriaeth Gymraeg.
Beth bynnag yw eich chwaeth mewn cerddoriaeth, dewch i fwynhau ychydig o gerddoriaeth Gymraeg gyda ni!
Dewch i wrando ar gerddoriaeth Dydd Miwsig Cymru yma


