Wyddoch chi fod heddiw yn ddiwrnod arbennig yng nghalendr y Cymry?
Ar 25 Ionawr bob blwyddyn, rydym yn dathlu Dydd Santes Dwynwen. Tywysoges oedd Dwynwen, merch Brychan Brycheiniog. Cafodd ei gwahardd rhag priodi Maelon, y dyn yr oedd yn ei garu, felly rhedodd i ffwrdd a daeth yn lleian. Gweddïodd dros gariadon Cymru, oherwydd roedd hi am iddyn nhw fod yn hapus.
Mae adfeilion Eglwys Dwynwen i’w gweld ar Ynys Llanddwyn (oddi ar Ynys Môn) hyd heddiw. Darllenwch ei stori yma.
Beth sy’n digwydd ar Diwrnod Santes Dwynwen?
I gofio am Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, mae teulu, ffrindiau a chariadon yn anfon cardiau at ei gilydd ar Ddydd Santes Dwynwen. Ond mae ’na ffordd wahanol gallwch chi ddathlu ym Met Caerdydd eleni! Ar gyfer y diwrnod arbennig hwn, bydd Bar Centro ar gampws Cyncoed yn defnyddio stensiliau ‘Cariad’ a ‘Cwtch’ (rhai o hoff eiriau Cymraeg y genedl) wrth wneud coffi!
Hoffi coffi? Manteisiwch ar y cyfle i brynu coffi sy’n cynnwys y geiriau Cymraeg arbennig hyn heddiw! Diolch i Bo Leung, Swyddog Cymraeg Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd am drefnu hyn.
Peidiwch ag anghofio rhannu eich lluniau gyda ni!
Llun: Calon (Pixabay)
Ydy pawb yn dathlu Dydd Santes Dwynwen yng Nghymru?
Na, ond mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd, yn enwedig ymhlith siaradwyr Cymraeg. Does dim rhaid i chi fod yn siaradwr Cymraeg (neu hyd yn oed yn Gymro) i ymuno yn y diwrnod!
Dydd Santes Dwynwen Hapus i chi gyd!



