Skip to content

Ein taith anhygoel i Batagonia dros yr haf!

Llun feature Patagonia
Llun feature Patagonia

Dyma ni, criw Patagonia 2019. Roeddem ni’n ffodus iawn o gael ein dewis ar gyfer y daith i Batagonia, a rydym yn ddiolchgar i Global Opportunities am y cyfle. Tair wythnos o wirfoddoli yn y Wladfa, a ymweld â thri ysgol Gymraeg, 8,000 o filltiroedd o Gymru! 4 myfyrwyr, 3 wythnos, 2 wlad, 1 iaith.

Trefelin

Cawsom groeso cynnes gan ddynes yr hostel La Estancia, ac ymlacio oedd ein nod cyntaf. Dim hir ar ôl hyn, sylweddolodd Gwion ei bod wedi anghofio ei fag ar y bws. Roedd ceisio cyfathrebu gyda’r trigolion lleol er mwyn esbonio hyn yn anodd iawn, ond ymhen tair awr, dychwelodd y bag, diolch byth!

Cawsom fynd ar daith i weld prydferthwch yr ardal gyda Marga Green (un o enwogion yr ardal), gan gynnwys yr Argae a Las Paz, ble maent yn cynnal gŵyliau yn yr haf. Yn dilyn hyn, cawsom wledd o asado a gwin coch yn nhŷ Marga a Charlie, gyda chlonc fach da.

Penderfynom fentro i Chile am y diwrnod, gan oeddwn ond tuag awr o’r ffin. Roedd gwr yr hostel wedi bodloni mynd a ni, gan sicrhau ein bod yn cael eog, sy’n bryd poblogaidd iawn yn Futalafu.

Yn dilyn gweld y golygfeydd anhygoel, roedd e’n amser troi nôl am yr Ariannin, ond fe aethom yn styc. Mwd + car + 4 myfyriwr o Gymru + Dyn o’r Ariannin gyda dim Saesneg = bach o palafa. Roedd e’n brofiad erchyll ar yr amser, ond wrth edrych nôl, roedd e’n ddoniol iawn!

, Ein taith anhygoel i Batagonia dros yr haf!, CARDIFF MET BLOG

Y bore drannoeth aethom i Ysgol y Cwm er mwyn cymryd sesiwn Addysg Gorfforol. Doedd ganddynt fawr ddim o adnoddau, felly defnyddiom ein dychymyg er mwyn creu sesiwn hwylus iddynt. Roedd e’n brofiad gwych i allu hyfforddi yn ein hiaith cyntaf 8,000 o filltiroedd o Gymru, ynghyd a chlywed Calon Lan a Hen Wlad fy Nhadau yn cael ei chanu gan ddisgyblion Ysgol y Cwm.

Y Gaiman a Threlew

Yn dilyn taith bws ar hyd y paith, bu’m yn treulio ein hamser yng nghanol bwrlwm y ddinas yn Nhrelew.  Cawsom ein croesawu gan griw o oedolion sy’n mynychu dosbarth Cymraeg wythnosol, ond sosial hwylus oedd y noson hwn. Cawsom lond ein boliau o fwyd a digonedd o win coch, a bu’n noson wych yn dod i ‘nabod y trigolion.

Yn ystod yr wythnos, bu’m yn ymweld ag Ysgol Yr Hendre, a’n cynnal sesiynau Addysg gorfforol i’r plant. Roedd hyn yn sialens ar y dechrau o ystyried nifer ac ansawdd yr adnoddau, ond roedd y 4 ohonom wedi mwynhau her! Fodd bynnag, roedd lefelau ffitrwydd a sgiliau corfforol y plant yn wych yn ogystal â’u brwdfrydedd. Ar ddiwedd pob dydd cawsom brofi canu’r anthem genedlaethol a gollwng faner y ddraig goch am ddiwrnod arall.

Stop nesaf – Ysgol Gymraeg y Gaiman. Cyflwynom reolau a thactegau criced cyflym, ac roedd y disgyblion wrth eu boddau! Bu’m yn treulio pob amser cinio pan yn y Gaiman yn y ‘Siop Fara’. ‘Empanadas jambon y quesa’ oedd fy archeb pob tro.

Cawsom ein gwahodd i ymweld â chlwb pêl-droed y Gaiman, chlwb rygbi a hoci’r ddraig goch a chwarae gêm 5 pob ochr yn Nolavon. Pleser oedd cyfarfod a Gladys a Billy a oedd mor garedig i’n croesawu i’w cartref am “Choripan”, blasus dros ben. Cawsom gyfarfod a brenhines y Wladfa Luned Gonzales a bu’m ddigon ffodus i gael sing song hefyd. Diolch mawr i Ana Rees Plas y Coed am y croeso cynnes a’r lletygarwch.

Methu aros i ymweld a’r Wladfa yn y dyfodol agos – profiad anhygoel!