Skip to content

Fy mhrofiad blwyddyn gyntaf yn astudio Busnes drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd

Featured Keira Davies
Featured Keira Davies

Helo! Fy enw i yw Keira a dwi ar hyn o bryd yn astudio Busnes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac ar fin dechrau yn fy ail flwyddyn. Allai ddim credu bod blwyddyn wedi bod ers i fi symud mewn i’r Brifysgol!

Roedd y penderfyniad i astudio ym Met Caerdydd yn un rhwydd. Roedd y brifysgol ddim yn rhy bell o fy nghartref ond hefyd yn ddigon pell i fi deimlo fy mod yn cael y profiad prifysgol! ! Pan des i’r campws ar y diwrnod agored roeddwn yn teimlo’n gyfforddus ac roeddwn yn gweld fy hun yn hapus yn astudio yma.

Gan fy mod i’n siarad Cymraeg roeddwn yn teimlo bod cwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn llai o her gyda’r dewis o allu dysgu rhan o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel person sy’n dod o ysgol Gymraeg ac yn siarad Cymraeg yn fy nghartef, roeddwn yn teimlo’n gyffrous iawn i glywed fy mod i’n gallu gwneud rhai o’r modiwlau Busnes yn Gymraeg. Mae cael byw ac astudio mewn awyrgylch gartrefol yn amhrisiadwy. Mae pawb fel un teulu mawr sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg ac mae’r cyfleoedd cymdeithasol wedi bod yn wych.

Mae gan Met Caerdydd adran Fusnes arbennig sy’n cynnig amrywiaeth o fodiwlau ble mae modd astudio rhan yn Gymraeg. Roedd cael opsiwn i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig i mi oherwydd fy mod yn teimlo y byddwn yn fwy cyfforddus yn ysgrifennu traethodau a gwneud cyflwyniadau fel rhan o’m gradd yn fy mamiaith.

, Fy mhrofiad blwyddyn gyntaf yn astudio Busnes drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG

Un o’r modiwlau astudiais oedd Cyllid i Reolwyr yn Gymraeg a bues i wrth fy modd i glywed yr oeddwn i’n gallu neud y modiwl hwn yn Gymraeg. Mae’n rhaid dweud roeddwn ychydig yn nerfus i ddechrau cyllid, er hynny cefais i lawer o gymorth ac roeddwn yn hyderus i ofyn cwestiynau os oeddwn i ddim yn deall unrhywbeth.

Yn edrych nôl ar fy mlwyddyn gyntaf mae nifer o fanteision i astudio’r cwrs yn Gymraeg. Os ydych yn dod o ysgol Gymraeg fel y gwnes i , gallwch deimlo’n gyfforddus i wybod mae yna ryw fath o gyfarwydd yn Met. Ar y llaw arall os and dydych ddim wedi mynd i ysgol Gymraeg mae’n ffordd i barhau gyda siarad Cymraeg a gwella eich dysgu. Mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi llawer o gyfleoedd o ran cwrdd â phobl newydd ar yr un cwrs a chi.

Gobeithio bod y blog wedi cynnig mewnwelediad defnyddiol o’r buddion sy’n deillio o astudio yn Gymraeg, neu yn gyfan gwbl yn y Gymraeg. Manteisia ar bob cyfle!