Skip to content

Fy mhrofiad Clirio gyda Therapi Iaith a Lleferydd ym Met Caerdydd

featured dafydd williams
featured dafydd williams

 

Helo! Fy enw i yw Dafydd a dwi newydd orffen fy mlwyddyn gyntaf yn astudio ar y cwrs BSc Therapi Iaith a Lleferydd. Blwyddyn yn ôl graddiais o Brifysgol Abertawe a chyflwynais fy nghais UCAS ar gyfer y cwrs Therapi Iaith a Lleferydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Yn anffodus, oherwydd natur poblogaidd y rhaglen, roedd nifer y llefydd wedi eu ddiflannu erbyn i fi wneud cais.  

Roeddwn i’n bwriadu treulio blwyddyn yn chwilio am waith mewn y maes er mwyn ail gyflwyno fy nghais, ond gwnaeth sgwrs gyda fy ffrind newid fy nghynllun am y gorau. Awgrymodd fy ffrind i anfon e-bost, gan nad oedd gen i ddim i’w golli trwy gysylltu â’r brifysgol i ddarganfod a oedd unrhyw lefydd wedi ymddangos.  

Anfonais e-bost i ddarlithydd ac roeddwn i’n hapus iawn i dderbyn ateb yn fuan. Cefais i wahoddiad i’r brifysgol am gyfweliad eithaf anffurfiol ac roeddwn i’n llwyddiannus.

Pan ymunais â’r rhaglen, fel arfer ac yn hollol naturiol, roedd popeth yn anghyfarwydd a braidd yn rhyfedd. Ond o hyd, mae gan y brifysgol drefniadau rhagorol ar gyfer croesawu myfyrwyr newydd, ac yn fuan iawn, dechreuais deimlo’n fwy cyfforddus a chartrefol.

Yn yr wythnosau gyntaf roedd y brifysgol a’r ddarlithwyr yn gwneud ymdrech da i gyflwyno pethau syfaenol i’r myfyrwyr ac yn gwneud i ni deimlo’n gartrefol. Dwi’n teimlo’n ffodus iawn gan fod ein ddarlithwyr yn gefnogol ac yn wybodus iawn am waith therapydd iaith a lleferydd, ac mae’r profiadau ar y cwrs yn o canolbwynt llawer mwy broffesiynol nag y profiadau mwy academaidd fy ngwrs diwethaf.

Mae eleni wedi bod yn un eithaf anodd, o ystyried pandemig Cofid-19. Fodd bynnag, mae ein darlithwyr wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau nad oedd ein dysgu wedi ei effeithio, ac bod modd barhau gyda’n darlithoedd trwy fideo ar-lein. Mae’n falch gen i gael tiwtor personol cefnogol iawn, gan fy mod i’n byw ben fy hun yn ystod y cyfnod cloi gyda fy nheulu dramor . Er mwyn fy nghefnogi roeddwn i mewn cysylltiad cyson i sicrhau fy mod i’n iach. Rwy’n hynod o ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi hyn yn fawr, gwnaeth wahaniaeth mawr i mi ac fy iechyd meddwl.

Fy mhrif uchafbwynt yn fy mlwyddyn gyntaf oedd y lleoliadau, gan ei fod wedi fy nghaniatau i mi ddeall gofynion y proffesiwn ac mae wedi cadarnhau fy marn i fod dyma’r llwybr gyrfa iawn i mi.