Skip to content

Fy mhrofiad fel llysgennad gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hybu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg!

featured image
featured image

Helo fy enw yw Gwenllian Morris a dwi ar fin mynd mewn i fy ail flwyddyn o astudio Gwyddor Iechyd a Chwaraeon yma ym Mhrifysgol Met Caerdydd.  Mae mwyafrif o fy nghwrs yn cael ei gynnal yn Saesneg ond dwi wedi penderfynu astudio rhannau ohono yn y Gymraeg. Rwyf wedi fy magu mewn man ble roeddwn yn siarad Cymraeg ym mhob agwedd o fywyd; boed hynny adra gyda fy nheulu,  yn yr ysgol a gyda fy ffrindiau. Gan fy mod wedi cwblhau fy holl waith academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, fe benderfynais wneud be bynnag oeddwn yn gallu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol. 

Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Digwydd bod, roedd y canran o waith Cymraeg roeddwn yn ei wneud yn y brifysgol yn fy ngwneud yn gymwys i ymgeisio am yr ysgoloriaeth cymhelliant drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel rhan o’r ysgoloriaeth cymhelliant gan y Coleg dwi’n astudio 33% o fy nghwrs trwy’r Gymraeg bob blwyddyn. Mae’r £500 y flwyddyn rwy’n derbyn fel rhan o fy ysgoloriaeth wedi helpu gyda fy nghostau cwrs. Yn ogystal â hyn, mae’r dosbarthiadau llai wedi rhoi mwy o amser cyswllt i mi, a phrofiad dysgu mwy personol.

Fy mhrofiad o fod yn llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Drwy ymgeisio am hyn dois i ddarllen ynghylch y Coleg Cymraeg a gweld y cyfle i allu ymgeisio i fod yn llysgennad. Roedd y broses o ymgeisio yn hynod o syml a dim ond angen cwblhau un ffurflen. Digwydd bod fe ges i le fel llysgennad gyda’r Coleg Cymraeg yn hyrwyddo manteision o astudio rhan o gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol.

Ar ôl i bawb gael eu dewis roedd yn rhaid i bawb gwblhau dau ddiwrnod o hyfforddi yn Llangrannog. Cynnwys y ddau ddiwrnod oedd dod yn gyfarwydd â’n swydd fel llysgennad a beth oedd yn ddisgwyliedig pan oeddem yn ôl yn ein prifysgolion. Roedd bod gyda’n gilydd yn gyfle i bawb ddod yn gyfarwydd gyda’i gilydd, i greu cysylltiadau rhwng llysgenhadon eraill yn ein prifysgolion ni a thros Gymru gyfan.

Yn ystod y ddau ddiwrnod fe gawsom fynd i’r dafarn lleol yn Llangrannog i gwblhau cwis a phostio pethau ar wefannau cymdeithasol y coleg. Er mwyn adeiladu ein proffil newydd fel llysgennad fe gawsom sesiwn ffotograffiaeth fel unigolion a gyda’r llysgenhadon eraill o’n hardaloedd. I gloi’r 2 ddiwrnod cawsom y cyfle i gwblhau cwrs rhaffau uchel i gael bach o hwyl gyda’n gilydd! Wedi i ni gwblhau hyn i gyd, y cynllun oedd ein bod yn gallu ymweld ag ysgolion uwchradd gwahanol i hyrwyddo’r Coleg Cymraeg. Drwy wneud hyn roeddent yn pwysleisio beth oedd y manteision a’r cyfleoedd oedd ar gael ar sail astudio yn y Gymraeg –mewn addysg bellach/uwch. Yn ogystal a hyn roedd digon o waith ar y gweill yn yr Eisteddfod.

, Fy mhrofiad fel llysgennad gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hybu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg!, CARDIFF MET BLOGS
Hyfforddiant llysgennad yn Llangrannog

Yn anffodus cyn i ni allu gwneud hyn a mynd o amgylch ysgolion, fe ddaeth cofid-19 a rhoi stop ar y cwbl! Roedd yn rhaid newid y cynlluniau i gyd ac addasu beth oeddem am ei wneud. Gan nad oeddem bellach yn y brifysgol a phawb adra roedd rhaid cwblhau tasgau ar y we neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Un o’r tasgau wnaethom fel criw ar y cyfryngau cymdeithasol oedd tasg gerdded. Roeddem yn ceisio codi arian at Tarian Cymru, a’r sialens oedd gweld faint o weithiau roeddem yn gallu cerdded o Gaerdydd i Ddinbych ble roedd Eisteddfod yr Urdd i fod.

Bob tro roeddwn yn mynd am dro, cerdded neu ar fy meic, roeddwn yn cyfri’r milltiroedd a’u gyrru nhw draw i’r Coleg gadw cyfri fel y llysgenhadon eraill. Erbyn y diwedd gan gasglu milltiroedd pawb (a staff) roeddem wedi gallu cerdded o Gaerdydd i Ddinbych 5 o weithiau oedd yn 1250 o filltiroedd.

Er mwyn i ni ddod yn gyffyrddus a’r cyfryngau a chael ein proffil allan roedd rhaid i bawb wneud instatakeover ar @dyddyfodoldi (Instagram) i roi blas i bawb ar fywyd Prifysgol yng Nghymru – ond roedd pawb adref felly sit oeddem yn ymdopi a beth oeddem yn wneud! Roedd hyn yn 3 diwrnod o ‘takeover’. 

Yn ystod fy nhro i roeddwn yn postio pethau gwahanol syniadau o beth i’w wneud yn ystod y cyfnod clo, ac yn agored i ateb unrhyw gwestiwn oedd gan unrhyw un boed am y Coleg Cymraeg, astudio yn y Gymraeg neu am Met Caerdydd. I gloi y takeover roedd angen gwneud cwis byw ar Instagram ac fe wnes i gwblhau fy nghwis gyda llysgennad arall sef Annell Dyfri o Brifysgol Caerdydd.

Felly efallai nad oedd y profiad cyntaf o fod yn llysgennad i’r coleg fel yr arferol, ond roedd digon o hwyl i gael o gyflawni ein swydd ar lein. Roedd hi’n anhygoel gweld sut oedd Elliw -oedd yn arwain y cynllun llysgenhadon, wedi gallu addasu tasgau, ac i weld pawb yn dod at ei gilydd a helpu ei gilydd; er ein bod wedi gwasgaru led-led Cymru.