Skip to content

Fy mhrofiad yn gweithio fel llysgennad myfyrwyr Cymraeg ym Met Caerdydd!

featured image
featured image

Fy enw i yw Carys Coupe ac rwy’n llysgennad myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.  

 

Rwyf wedi bod yn gweithio fel llysgennad i’r Brifysgol ers fy ail mlwyddyn ble roeddwn yn astudio Celf Gain a dwi nawr yn gwneud fy nghwrs Meistr mewn Menter Creadigol ac Arloesi. Ar ôl yr holl amser hyn, rwy’n dal i gredu mai hyn oedd un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud fel myfyriwr … a dyma pam! 

Digwyddiadau a chyfleoedd 

Rwyf wedi gweithio mewn sawl digwyddiad campws fel diwrnodau agored a diwrnodau cyfweld.  Mae hyn yn ffordd wych i ddarganfod popeth sydd gan gampws y Brifysgol i’w gynnig ac mae’n gyfle perffaith i gwrdd a phobl newydd.

Unwaith cyfarfum a darpar fyfyriwr a oedd yn cael ei chyfweld ar gyfer y rhaglen Celf Gain ac fe lwyddais i setlo ei nerfau cyn ei chyfweliad, ei hysbysu am y cwrs a siarad gyda’i theulu. Flwyddyn yn ddiweddaraach gwelais hi eto, fel myfyriwr Celf Gain blwyddyn gyntaf yn swyddogol ar ein taith cwrs ar y cyd i Fenis. Roedd yn deimlad gwych gwybod fy mod wedi chwarae rhan wrth wneud hynny i ddigwydd ac roedd yn wych cael dal i fyny eto.

Rwyf hefyd wedi cael cyfle i gwrdd a gweithio gyda llysgenhadon myfyrwyr eraill sydd wedi dod o wahanol gyrsiau na fyddwn efallai wedi cwrdd a nhw fel arall. Rwy’n dal i fod yn ffrindiau gyda nhw nawr ac yn wirioneddol mwynhau gweithio gyda nhw.

Rwyf hefyd wedi cael cyfle I gwrdd a gweithio gyda llysgenhadon myfyrwyr eraill sydd wedi dod o wahanol gyrsiau na fyddwn efallai wedi cwrdd a nhw fel arall. Rwy’n dal i fod yn ffrindiau gyda nhw ac yn wirioneddol yn mwynhau gweithio gyda nhw.

, Fy mhrofiad yn gweithio fel llysgennad myfyrwyr Cymraeg ym Met Caerdydd!, CARDIFF MET BLOGS

Hyblygrwydd 

Mae’r swydd hyn yn gweithio o amgylch fy astudiaethau. Cynigir detholiad o sifftiau i mi sy’n amrywio yn y math o waith sy’n ofynnol a hyd yr oriau gwaith fel fy mod yn gallu dewis beth rwy’n ei wneud, phryd a pha mor aml.

Mae’r hyblygrwydd hwn yn ddelfrydol ar gyfer pan fyddaf yn canfod bod angen mwy o amser arnaf i wneud gwaith celf neu amser i ymchwilio ar gyfer fy nghwrs, ond mae hefyd yn gweithio’n dda pan dwi eisiau bachu gwaith ychwanegol i ennill rhywfaint o arian ychwanegol i drin fy hun!

Gyda’r gefnogaeth ariannol ychwanegol rwyf wedi gallu prynu cyflenwadau celf, talu am hyrwyddiadau artistiaid a thalu am hyrwyddiadau artistiaid a thalu am gyflwyniadau arddangosfa, teithiau a mwy!

Profiad Gwaith

Gydag amrywiaeth o sifftiau daw amrywiaeth o sgiliau, gwybodaeth a fydd yn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ol y prifysgol. Trwy’r seydd hon rwyf wedi ennill profiad fel cynrychiolydd tywysydd taith, gweinyddwr, wedi ennill profiad o rwydweithio a gwella fy sgiliau cyflwyno.

Eleni, rwyf wedi dod yn ‘Groesawr Myfyrwyr’ sy’n cynnwys cyfarfodydd fideo arlein gyda myfyrwyr israddedig i’w cefnogi ar eu taith, o gysur fy nghartref fy hun yn ystod broses cloi cysylltiedig a Covid-19. Rwyf hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn sgyrsiau grwp a chyflwyniadau i fyfyrwyr ysgol i rannu fy mhrofiadau o addysg uwch ac addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae hyn wedi caniatau i mi ymarfer fy sgiliau iaith ac ysgrifennu Cymraeg a fydd yn gwella fy nghyfleoedd gwaith yn y dyfodol. Dod i chwarae mwy o ran yn y brifysgol, dod i adnabod myfyrwyr eraill, llysgenhadon a’r gyfadran ar y campws yw’r hyn rydw i wedi’i fwynhau fwyaf, ac edrychaf ymlaen at weld pa waith a ddaw yn sgil gweddill y flwyddyn!