Skip to content

Fy nhaith Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol dwyieithog ym Met Caerdydd

Anna featured
Anna featured

Helo, fy enw i yw Anna. Yn 2018, dechreuais astudio’r cwrs BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC yn ddwyieithog, a gorffennais y cwrs yn 2021. Ers i mi gwblhau’r cwrs yng Ngorffennaf blwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio fel Cynorthwyydd Dysgu mewn Ysgol Gynradd Gymraeg.   

Pam dewis Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol?  

Ers yn ifanc, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gweithio gyda phlant, ond doeddwn i ddim yn sicr pa yrfa benodol roeddwn i eisiau dilyn.   

Y prif reswm dewisais y cwrs yma oedd oherwydd roedd hi’n wahanol i’r cyrsiau eraill o ran cynnwys lleoliadau ymarferol mewn llefydd addysgol dros y tair blwyddyn. Wrth i mi fynychu’r lleoliadau gwahanol fel Meithrin a dwy Ysgol Gynradd, datblygais hyder a sgiliau hanfodol wrth weithio gyda phlant ifanc, ac mae’r profiadau wedi bod yn fuddiol iawn wrth i mi chwilio am swydd ar ôl graddio.  

Rheswm cryf arall pam penderfynais dewis y cwrs yma oedd bod y Brifysgol yn cynnig y cwrs yn ddwyieithog. Golygodd hyn fy mod yn gallu parhau gyda fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, a gwybod bod hynny yn mynd i fod yn fuddiol i mi yn fy ngwaith ac yn y dyfodol wrth chwilio am swydd. Gan fy mod i wedi derbyn fy addysg drwy’r Gymraeg roedd dewis barhau fy astudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gam naturiol .  

Manteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 

Y peth gwnes i fwynhau fwyaf am y cwrs oedd y siawns i gael profiad ymarferol ar draws grwpiau oedran gwahanol o fewn lleoliadau gwahanol, o weithio gyda babanod i weithio gyda phlant hyd at chwe blwydd oed. Datblygais y sgiliau o addasu gweithio gydag amryw o oedrannau yn fy lleoliadau. Wrth i mi astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chwblhau rhai gwaith yn Saesneg, roedd bod mewn dosbarth llai gyda’r dosbarthiadau Cymraeg yn y Brifysgol yn help mawr ac yn gefnogol i drafod y gwaith fel dosbarth.  

O fod mewn dosbarth bach, roedd hyn yn galluogi i ni ddod at ein gilydd i rannu barnau a chwblhau tasgau, asesiadau fel tîm. Rydych yn dod i nabod eich cyd-fyfyrwyr, ac wrth weithio ar dasg mewn grŵp, mae’n fuddiol oherwydd rydych yn gwybod eich cryfderau, sy’n datblygu sgiliau creadigol o weithio mewn grŵp. 

 O ymgymryd profiadau ymarferol a nawr swydd yn gweithio gyda phlant ifanc, sylweddolais fy wnes i benderfynu gwneud cwrs sydd yn cyd-fynd â gweithio gyda phlant am y rheswm o gael teimlad gwobrwyol wrth helpu plant yn eu haddysg, ac yn gweld mewn person y cynnydd mae pob plentyn yn datblygu trwy’r amser.   

 Felly os ydych yn meddwl neu’n ystyried gweithio gyda phlant ifanc, ond nad ydych yn bendant i ba ffordd i fynd â’ch gyrfa, byddaf yn argymell y cwrs hwn i gael gradd sy’n arwain at amryw o yrfaoedd ac addysg estynedig.