Skip to content

Fy nhaith i fod yn Athrawes Addysg Gorfforol gyda’r cwrs TAR Uwchradd ym Met Caerdydd

Featured photo
Cerys Davies

Featured photo

Helo, fy enw i yw Cerys Davies, graddiais yn ystod yr haf ar ôl cwblhau tair blynedd yn astudio Chwaraeon ac Addysg Gorfforol ym Met Caerdydd. Erbyn hyn dwi wedi cychwyn ar y cwrs TAR Addysg Gorfforol blwyddyn yma. Yn y blog hyn, byddaf yn siarad am fy mhrofiad ar y cwrs TAR hyd yn hyn.

Yn amlwg, oherwydd COVID-19, mae pethau wedi bod bach yn wahanol yn ystod y flwyddyn hon. Fel blwyddyn, rydym wedi methu allan ar gwpl o bethau, fel cyflwyno ein traethawd hir a’r seremoni graddio. Ond, mae’n neis bod y cwrs TAR dal i fynd ymlaen a bod y Brifysgol yn ceisio gwneud gymaint maent yn gallu i wneud ein profiad mor dda â phosib. Er bod y cwrs yn wahanol i beth roeddwn yn disgwyl, mae dal i fod yn gyffrous iawn.

Pam dewis astudio’r cwrs TAR Uwchradd?

Dwi o hyd wedi bod eisiau bod yn athrawes Addysg Gorfforol ac roeddwn mor hapus pan gefais y lle ar y cwrs TAR. Mae 8 ohonom yn astudio’r TAR Addysg Gorfforol sydd yn llawer llai na’r criw Saesneg (32). Mae ein gwersi ymarferol yn y Brifysgol yn cael ei gynnal yn Saesneg, felly mae’r gwaith Addysg Gorfforol rydym yn ei wneud yn Saesneg. Mae hyn yn gallu bod yn sialens i ymdopi fel myfyriwr sydd yn rhugl yn y Gymraeg. Ond, rydym yn cael mwyafrif o ein darlithoedd anghydamserig yn y Gymraeg. Rydym hefyd yn derbyn gwersi Cymraeg ac yn cael gwneud ein lleoliad dysgu mewn ysgolion Cymraeg.

Fel criw TAR Addysg Gorfforol, rydym wedi cael ein haneru mewn i ddau grŵp (1 a 2) ar gyfer ein gwersi ymarferol. Rwyf wedi cael y cyfle i weithio hefo pawb yn fy ngrŵp a theimlaf fy mod wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Yn anffodus, oherwydd COVID-19, nid ydym wedi gallu cymysgu â grŵp 2 o gwbl. Rydym ni (y criw TAR Cymraeg) wedi cael ein haneru i’r ddau grŵp. Mae hyn yn fach o siom gan ein bod yn cael llai o gyfle i siarad Cymraeg yn ein gwersi ymarferol.

Hyd yn hyn, mae’r cwrs wedi bod yn dda iawn. Mae wedi bod yn wahanol i’r arfer gan ein bod ar-lein llawer o’r amser, ond mae hyn wedi rhoi profiad gwobrwyol iddynt hwy hefyd. Rydym wedi gallu cael profiadau gwahanol yn yr ysgol ac ar-lein sydd yn ehangu ein sgiliau dysgu. Roedd yn braf gallu mynd mewn i’r brifysgol ac ein lleoliadau ar gychwyn y flwyddyn i gyfarfod pawb (o bellter, yn amlwg), ac rwy’n edrych ymlaen at gael y cyfle i wneud hyn eto yn fuan gobeithio.

Mae pawb wedi bod yn cael profiadau gwahanol iawn yn ei lleoliadau. Mae rhai wedi bod ar-lein mwy nag eraill, ond mae pawb yn bendant wedi dysgu pethau newydd. Mae ein hamser yn ein lleoliad cyntaf bron a dod i ben. Rwy’n mwynhau fy amser yn yr ysgol hon ac yn dysgu pethau newydd bob dydd. Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd gwahanaol yn ystod y cwrs hyd yn hyd. Rwyf wedi cyfarfod llawer o pobl newydd, wedi creu adnoddau newydd a wedi cael y cyfle i ddysgu nifer o disgyblion gwahanol. Edrychaf ymlaen at barhau i ddysgu yn fy ail leoliad.

Cefais amser braf adref yn ystod y gwyliau Nadolig, ond mae’n neis bod nôl mewn riw fath o drefn wan. Rwyf yn falch fy mod yn byw gyda merched sydd hefyd ar y cwrs TAR. Rydym wedi bod yn gallu mwynhau yr amser clô hefo’n gilydd. Rydym wedi bod yn cadw’n brysur drwy fynd â cŵn am dro a cael cystadleuthau coginio. Mae hefyd yn neis gallu helpu ein gilydd hefo’r holl waith.

Mae’r cwrs mor belled, yn enwedig y profiadau Ysgol, yn bendant wedi fy helpu i gael profiadau newydd. Mae’n braf hefyd cael cyfarfod athrawon a myfyrwyr TAR eraill. Edrychaf ymlaen i barhau i ddysgu pethau newydd a mwynhau gweddill y cwrs.