Skip to content

Sut mae Cyfathrebu Graffig wedi fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith

amy lewis featured image
amy lewis featured image

Helo, fy enw i yw Amy a dwi newydd orffen fy mlwyddyn olaf yn astudio Cyafthrebu Graffig ym Met Caerdydd. Wrth i mi edrych yn ol, hoffwn feddwl fy mod wedi gwneud y gorau o fy amser yma yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (CSAD)- dyma rai o uchafbwyntiau fy amser yma.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi hedfan heibio, a dwi wedi mwynhau pob eiliad. Mae’r cyfleoedd a phrosiectau wedi fy ngalluogi i mi ddatblygu fy sgiliau a hunan hyder. Yn y flwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn mi wnes i osgoi dylunio canlyniadau oedd yn bennaf yn teipograffegol.

, Sut mae Cyfathrebu Graffig wedi fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith, CARDIFF MET BLOG
Dyluniais ffurfdeip ar gyfer y wyddor Cymraeg tuag at fy mhrif prosiect terfynol.

Yn y trydydd blwyddyn ar y cwrs graffeg cyfathrebu cefais gyfle i gyflwyno gwaith i’r ‘ISTD Student Awards’. Roedd hyn yn brosiect mawr ac yn hollol seiliedig ar deipograffeg. Wnes i ddylunio llyfr teipograffyddol i’r briff Mudiad. Mae naratif y llyfr yn canolbwyntio ar y digwyddiadau yn Gapel Celyn, Cwm Tryweryn. Mae’r ymdeimlad o hiraeth yn cael ei adlewyrchu yn y darluniau manwl o fapiau. Mae’r arbrofion argraffyddol wedi cael ei foddi mewn dŵr, yna golygais y lluniau i ddefnyddio yn y llyfr i greu ymdeimlad o foddi. Gwelir hein yn y lluniau. Y prosiect yma oedd fy hoff brosiect; wnes i ddysgu  gymaint, a datblygais angerdd am deipograffeg. Arweiniodd hyn at ddylunio fy mhrif brosiect terfynol.

Ar gyfer fy mhrif brosiect terfynol, penderfynais ganolbwyntio ar Gymru a theipograffeg. Penderfynais wthio fy hun a darlunio ffurfdeip i’r wyddor Gymraeg. Nod y prosiect yw creu amgylchedd lle bydd pobl eisiau defyddio a dysgu Cymraeg, felly roedd y cyfle i ddewis thema fy hun ac yna defnyddio fy sgiliau ddylunio i ddathlu naws unigryw’r Gymraeg yn werthfawr iawn. Dwi mor falch fy mod i wedi dewis ar gyfer fy mhrif brosiect terfynol.

, Sut mae Cyfathrebu Graffig wedi fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith, CARDIFF MET BLOG
Tudalen o’r llyfr yn dangos arbrofion argraffyddol.

Dyna ni! Ychydig o fewnwelediad i fy mhrofiad yn y trydydd blwyddyn ar y cwrs Cyfathrebu Graffig. Yn amlwg roedd Cymru a Chymreictod yn thema cryf yn fy nghwaith blwyddyn olaf, ac yn rhan fawr o fy hoff brosiectau.

I gloi’r flwyddyn a dathlu’r gwaith cefais gyfle i siarad am fy nghwaith yn fyw ar Instagram drwy gyfrwg y Gymraeg. Roedd y broses o fod yn fyw gyda pobl yn gwylio yn frawychus, ond unwaith wnes i setlo, llifodd y sgwrs. Diolch i Mared Lewis am fod yn gyfwelydd mor hyfryd. Roedd yn werth wneud ac yn brofiad defnyddiol iawn. Os ydych chi eisiau gweld mwy am fy nghwaith, ewch i Instagram @bagcw210 i wylio’r IGTV.

, Sut mae Cyfathrebu Graffig wedi fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith, CARDIFF MET BLOG
Tudalen o’r llyfr yn dangos y darluniau o mapiau.

Dwi wir yn ddiolchgar am y cyfleoedd a phrofiadau dwi wedi cael ar y cwrs cyfathrebu Graffig. Rwy’n bendant yn mynd i golli fy amser yma ym Met Caerdydd ac rwy’n annog pawb i wneud y gorau ohono a’i fwynhau tra bydd yn para.