Dechreuodd fy nhaith ym Met Caerdydd pan gyfarfûm ag aelod o staff o’r gwasanaeth Ehangu Mynediad yng Nghanolfan Gwaith Alexandra yn 2018 a wnaeth fy annog i wneud cais i’r brifysgol. Yn dilyn ei chyngor, cofrestrais ar yr IELTS a dau gwrs achrededig, a roddodd y cymwysterau yr oedd eu hangen arnaf i gael lle ar y cwrs Sylfaen.
Ar y cwrs Sylfaen y darganfyddais Astudiaethau Tai ac yna cefais fy nghalonogi gan Janet Beauchamp, cyfarwyddwr y rhaglen ar y pryd, y gellid trosglwyddo fy nghefndir yn y Gyfraith i Astudiaethau Tai. Roedd astudio ym Met Caerdydd hefyd yn ffordd o herio fy ngallu deallusol ac i osod esiampl i’m plant ei dilyn. Rwy’n credu mai prifysgol yw’r allwedd i ddyfodol llwyddiannus ac rwy’n gwybod y newid y gall ei wneud ym mywydau pobl.
Mae’r rhaglen Astudiaethau Tai yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu allan i’r cwrs yr wyf wedi bod yn awyddus i’w cofleidio, gan gynnwys sgiliau astudio, cynlluniau mentora, Pathway to Board a Shelter Cymru. Trwy leoliad gyda Thai Taf, llwyddais i sicrhau rôl fel Cynorthwyydd Prosiect o fewn y sefydliad, gyda llawer o lwybrau dilyniant gyrfa yn y dyfodol.
O wythnos gyntaf y cwrs Astudiaethau Tai, cafwyd croeso cynnes. Daeth yr adran yn gyflym fel teulu bach i ni a gallem gael cymorth gan ein darlithwyr yn hawdd. Rydym yn cael ein trin fel aelodau gwerthfawr o’r adran a gallwn sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed, a thrwy hynny siapio’r addysgu o amgylch ein hanghenion cymaint â phosibl.
Rwyf wedi elwa’n fawr iawn o wybodaeth a phrofiad Janet, fy nhiwtor personol, yn cynllunio camau dyddiol gyda’n gilydd, yn fy nghyfeirio at adnoddau defnyddiol ac yn fy atgoffa i ddathlu fy nghyflawniadau. Rwy’n falch o’r person newydd, gwell rydw i wedi dod, diolch i’r cyfleoedd ym Met Caerdydd.


