Yn fy ail flwyddyn ym Met Caerdydd, ochr yn ochr â’m cyd-fyfyrwyr, cymerais ran mewn Cystadleuaeth Fasnach Genedlaethol yng Nghymru, gan ennill yr ail safle.
Gan ychwanegu at y llwyddiant hwn, yn yr un flwyddyn, daeth Deloitte i’r brifysgol gyda chynigion am rolau lleoliad diwydiannol am flwyddyn. Ymgeisiais am swydd ac ym mis Medi 2019 dechreuais flwyddyn yn Deloitte, gan weithio fel Cydymaith/Dadansoddwr.
Roedd dychwelyd i’r brifysgol ar ôl bod i ffwrdd o’m hastudiaethau am flwyddyn yn sicr yn feichus, yn enwedig o’i gyfuno â heriau’r pandemig COVID-19.
Serch hynny, llwyddais i aros yn bositif a meistroli fy nhrydedd flwyddyn, gan ennill 2:1.
Yn ystod pedair blynedd fy ngradd israddedig datblygais ddiddordeb brwd mewn rheoli pobl. Ysbrydolodd hyn fi i barhau â’m hastudiaethau drwy ymgymryd â MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol.
Hedfanodd y flwyddyn astudio hon heibio, gan baratoi ar gyfer darlithoedd, seminarau ac aseiniadau, yn ogystal â bod yn Brif Gynrychiolydd Dosbarth ac ateb cwestiynau gan fy nghydweithwyr cwrs rhyngwladol.
Graddiais o fy ngradd Meistr gyda Theilyngdod a chynigiwyd swydd i mi ym Met Caerdydd fel Gweinyddydd Cydymffurfiaeth Mewnfudo.
Mae Met Caerdydd nid yn unig wedi meithrin fy nghynnydd academaidd ac wedi arwain at swydd yma – mae hefyd wedi helpu fy natblygiad personol.
Rwyf bob amser wedi bod yn allblyg ac yn gymdeithasol iawn, a arweiniodd fi i gymryd rôl Cynrychiolydd Cwrs yn fy mlwyddyn gyntaf. Roeddwn wrth fy modd â’r swydd gymaint nes i mi aros yn y rôl hyd at raddio bum mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl cwblhau fy ngradd Meistr.
Trwy gydol fy amser ym Met Caerdydd, fe wnes i hefyd herio fy hun i gymryd rhan mewn chwaraeon a gymnasteg, gan ymuno â’r cymdeithasau trampolinio a lacrosse, y bûm yn chwarae iddynt am bron i dair blynedd.


