Skip to content

Gwneud gwahaniaeth i brofiadau myfyrwyr Cymraeg Met Caerdydd gyda fy rôl o fod yn Swyddog Iaith Gymraeg

featured photo- SYG
featured photo- SYG

Pwy ydw i?

Helo, fy enw i yw Ela Catrin Jones a fi yw Swyddog Iaith Gymraeg ym Met Caerdydd eleni. Rwy’n wreiddiol o Ynys Môn yng Ngogledd Cymru. Rwyf bellach yn fy nhrydedd flwyddyn o astudio Chwaraeon ac Addysg Gorfforol ym Met Caerdydd. Ymgeisiais i fod yn Swyddog Iaith Gymraeg eleni er mwyn sicrhau bod lleisiau myfyrwyr Cymraeg y Met yn cael eu clywed a bod sylfaen cadarn yn rhan o’r Undeb Myfyrwyr a thrwy’r Brifysgol. Fy rôl o fewn yr Undeb yw rhoi llais i fyfyrwyr Cymraeg, sicrhau bod cyfleoedd teg ganddynt o fewn eu cyrsiau a myfyrwyr di-gymraeg ac yn olaf i geisio sicrhau elfen gymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg i gymdeithasu gydag eraill.

Bywyd ers dod ‘nôl i Gaerdydd:

Ers dychwelyd mae bywyd wedi bod yn eithaf gwahanol ers i ni adael ym mis Mawrth. Er y sefyllfa sydd yn bresennol, mae’n hanfodol ein bod yn dysgu sut i fyw yn y cyfnod hwn yn hytrach na gwrthod.

, Gwneud gwahaniaeth i brofiadau myfyrwyr Cymraeg Met Caerdydd gyda fy rôl o fod yn Swyddog Iaith Gymraeg, CARDIFF MET BLOG
Tîm yr Undeb Myfyrwyr cyn gwneud cwrs rhwystrau ym Mhorthcawl yn yr wythnos hyfforddi

Wrth i’r sector lletygarwch barhau i fod ar agor, rydw i’n sicr wedi sicrhau bod gennyf rywbeth i edrych ymlaen at ar y penwythnos boed hynny’n bryd o fwyd gyda ffrindiau, mynd am dro mewn parc neu mynd i’r sinema. I mi, mae hyn wedi fy helpu wrth i mi edrych ymlaen at y penwythnos ac mae’n golygu fy mod yn cydbwyso gwaith Prifysgol a bywyd cymdeithasol mewn ffordd gynhaliol.

, Gwneud gwahaniaeth i brofiadau myfyrwyr Cymraeg Met Caerdydd gyda fy rôl o fod yn Swyddog Iaith Gymraeg, CARDIFF MET BLOG
Mae gan Gaerdydd fel dinas nifer o bethau gwych i’w gynnig!

Rwy’n byw gyda naw myfyriwr arall sydd yn gallu teimlo fel gormod ar brydiau ond rwyf wedi sylweddoli pa mor bwysig yw rhoi amser o’r neilltu ar gyfer ymarfer corff, mynd am dro a bod allan yn yr awyr iach. Mae cymryd hoe o’r gwaith yr un mor bwysig a gwneud y gwaith ac felly rwyf wedi dysgu i gymryd mantais o Barc y Rhath, Parc Bute yn ogystal â’r ardaloedd eraill i gyd sydd ar gael megis Bae Caerdydd.

, Gwneud gwahaniaeth i brofiadau myfyrwyr Cymraeg Met Caerdydd gyda fy rôl o fod yn Swyddog Iaith Gymraeg, CARDIFF MET BLOG
Mae’n bwysig cymryd amser i fwynhau hefyd!

Y flwyddyn sydd i ddod:

Rwy’n rhan o Bwyllgor Cymdeithas Gymraeg Met Caerdydd ac felly mae’r ddwy rôl yn clymu gyda’i gilydd yn daclus o ran yr ochr cymdeithasol ac academaidd. Yn ystod y flwyddyn academaidd fy ngobaith ydy i sicrhau elfen gymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg er y sialensiau rydym yn eu hwynebu a sicrhau bod digwyddiadau cymdeithasol ar-lein/wyneb yn wyneb ar gael i fyfyrwyr Cymraeg. Rydym yn y broses o drefnu sosial yn y Depot ar gyfer myfyrwyr y Gymdeithas Gymraeg ym Mhrifysgol Met. Fe fydd y wybodaeth i gyd yn cael ei rhoi ar y grŵp Facebook – Gym Gym Met Caerdydd.

Cwestiwn?

Cofiwch os oes gennych unrhyw gwestiwn, awgrymiad neu sylwad plîs cysylltwch mewn un o’r ffyrdd canlynol: